Deposit Plan

Yn dod i ben ar 9 Rhagfyr 2026 (42 diwrnod ar ôl)

5 Y Strategaeth Ddatblygu Sylw

5.1Mae'r Cynllun Adneuo yn nodi'r Strategaeth Ddatblygu (y Strategaeth) i hwyluso twf cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol hyd at 2035. Mae wedi cael ei lywio gan sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr a chadarn, ac mae'n ymateb i ystod o heriau allweddol a nodwyd drwy gydol y broses o baratoi'r cynllun. Mae'n ystyried sut y bydd y Fwrdeistref Sirol yn tyfu, ac yn fras lle y bydd y twf hwn yn cael ei ddosbarthu i gyflwyno'r Weledigaeth a'r Amcanion a nodwyd yn gynharach.

5.2Datblygwyd y Strategaeth gan roi sylw llawn i:

  • Y cyd-destun cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
  • Ymgysylltiad a chyfranogiad rhanddeiliaid ar y Weledigaeth, Materion ac Amcanion, Opsiynau Strategaeth Ofodol ac Opsiynau Twf.
  • Y materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol sy'n berthnasol i Fwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Amrywiaeth o senarios twf poblogaeth, cartref, annedd a chyflogaeth.
  • Dadansoddiad Aneddiadau Cynaliadwy.
  • Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (LHMA).

Lefel y Twf Sylw

5.3Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'i lleoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd, drwy ei Fargen Ddinesig, â dyheadau uchelgeisiol o ran twf economaidd a swyddi. Yn ogystal, mae hefyd wedi'i leoli o fewn yr Ardal Dwf Genedlaethol a nodir yn Cymru’r Dyfodol, sy'n ceisio sicrhau lefel gymesur o dwf yn yr ardal hon. Rhan sylfaenol o unrhyw strategaeth sy'n ceisio bodloni'r gofynion hyn yw poblogaeth sy'n ategu lefel briodol o dwf.

  • Mae'r 2RLDP yn darparu ar gyfer 6,165 o gartrefi dros gyfnod y cynllun, ynghyd â lwfans hyblygrwydd, gan gynnwys 1,906 o gartrefi fforddiadwy. Mae'r senario twf hwn yn cefnogi cynnydd rhagamcanol yn y boblogaeth gyffredinol ac, yn hollbwysig, y boblogaeth oedran gweithio, sy'n hanfodol ar gyfer cynnal twf economaidd, denu buddsoddiad, a chyrraedd targedau cyflogaeth rhanbarthol.
  • Mae’r 2RLDP yn dyrannu 40.3 Hectar o dir cyflogaeth ar draws ystod o safleoedd. Mae'n darparu'r fframwaith polisi i gefnogi twf swyddi, ynghyd â pholisïau sydd wedi'u cynllunio i hwyluso twf cynaliadwy ar draws sectorau sylfaenol allweddol, megis manwerthu, hamdden a thwristiaeth.

5.4Ceir rhagor o fanylion yn EB5: Opsiynau Twf Tai a Chyflogaeth.

Dosbarthiad Gofodol Twf Sylw

5.5Er mwyn galluogi bywydau egnïol ac iach, dylai pobl allu cerdded yn hawdd i gyfleusterau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae ‘cymdogaethau cerddadwy’ yn elfen graidd o bolisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer defnydd tir, gyda'r nod o greu cymunedau iach a chynaliadwy a chefnogi hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy Llywodraeth Cymru. O dan PCC a Chanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol, nodweddir cymdogaethau cerddadwy gan ystod gynhwysfawr o gyfleusterau ar gyfer anghenion bob dydd sydd wedi'u lleoli o fewn taith gerdded gyfforddus o hyd at 20 munud o’r ardaloedd preswyl.

5.6Mae'r Strategaeth yn ceisio lleoli datblygiadau yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy. Er mwyn llywio dosbarthiad gofodol twf, mae'r 2RLDP yn nodi dwy elfen allweddol ar gyfer lleoliad y datblygiad. Mae'r ddwy elfen wedi deillio o bolisïau a geir yng Nghymru'r Dyfodol.

Ffocws Canol Trefi yn Gyntaf Sylw

5.7Mae'r elfen hon o'r strategaeth yn adlewyrchu Polisi Cymru'r Dyfodol 6 - Canol Trefi yn Gyntaf, sy'n blaenoriaethu iechyd a bywiogrwydd canol trefi ac yn eu hyrwyddo fel y ffocws ar gyfer gweithgarwch masnachol, yn ogystal â defnydd tir cyflenwol sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae Polisi 6 Cymru’r Dyfodol, 'Canol Trefi yn Gyntaf', ynn ei gwneud yn ofynnol i gyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd sylweddol gael eu lleoli yng nghanol trefi.

5.8Mae lleoli datblygiad preswyl newydd o fewn Aneddiadau Haen 1, sy'n cynnwys Prif Ganol Trefi a Chanol Trefi Lleol, yn caniatáu i drigolion y dyfodol gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad hawdd i'r gwasanaethau a'r cyfleusterau niferus ynddynt.

5.9Er y bydd y 2RLDP yn ceisio lleoli datblygiadau o fewn Aneddiadau Haen 1 a Haen 2, er mwyn darparu ar gyfer twf, bydd angen i'r 2RLDP hefyd ystyried aneddiadau eraill sydd wedi'u lleoli'n gynaliadwy.

Ffocws Buddsoddi Metro Sylw

5.10Yn deillio o Bolisïau 12 a 36 Cymru'r Dyfodol, mae'r elfen hon yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y buddion sy'n deillio o'r buddsoddiad sylweddol ym Metro De-ddwyrain Cymru. Er bod lleihau'r angen i deithio yn amcan polisi allweddol y 2RLDP, cydnabyddir y bydd angen i bobl deithio ar gyfer gwaith, gwasanaethau a hamdden. Mae clystyru tai, swyddi a gwasanaethau o fewn pellter cerdded a beicio hawdd o orsafoedd rheilffordd, gorsafoedd bysiau a chyfnewidfeydd, yn hyrwyddo cymdogaethau cerddadwy ac yn hwyluso teithiau sy'n cael eu gwneud trwy ddulliau eraill heblaw am mewn ceir preifat.

5.11Bydd canolbwyntio datblygiadau newydd o fewn ac o amgylch Aneddiadau Haen 1 a Haen 2, ac o amgylch gorsafoedd rheilffordd, gorsafoedd bysiau a chyfnewidfeydd yn cyfrannu at y nod cyffredinol o leihau'r angen i deithio a chynyddu newid moddol i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, sy'n nodau sylfaenol Cymru'r Dyfodol.

Diagram Allweddol Sylw

5.12Mae'r Diagram Allweddol yn dangos maint Bwrdeistref Sirol Caerffili ac ardal y 2RLDP, a'r cydberthynas ag awdurdodau lleol cyfagos. Mae'n nodi'r Aneddiadau Haen 1 sy'n cynnwys Prif Ganol Trefi a Chanol Trefi Lleol, yn ogystal â gorsafoedd rheilffordd a chyfnewidfeydd bysiau, ac yn dangos yr ardaloedd ar gyfer twf.

Map of Allwed with roads, railway lines, and stations in Wales. Colour-coded icons indicate various areas and transport hubs, with a legend in the top right.
Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig