Deposit Plan

Yn dod i ben ar 9 Rhagfyr 2026 (42 diwrnod ar ôl)

4 Gweledigaeth ac Amcanion Sylw

4.1Bydd yr 2RLDP yn mynd i'r afael â'r materion defnydd tir allweddol sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol a'i chymunedau. Yn gynnar yn 2025 cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Cyn Adneuo. Nododd y cynllun hwnnw gyfres o 36 o faterion cenedlaethol, rhanbarthol, amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i'w hystyried; 15 nod a 25 amcan, yn ogystal â'r weledigaeth gyffredinol.

4.2Ers hynny mae'r rhain wedi'u datblygu a'u mireinio i adlewyrchu strategaethau rhanbarthol a lleol ac i ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Materion Sylw

4.3Nodwyd y materion allweddol canlynol, a bydd y rhain, yn eu tro, yn dylanwadu ar weledigaeth y cynllun:

4.4Newid yn yr hinsawdd – datganwyd ‘argyfwng hinsawdd' gan y Senedd a'r Cyngor. O ganlyniad, mae'n rhaid i'r 2RLDP flaenoriaethu addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd a sicrhau bod cynigion a gyflwynir yn gallu gwrthsefyll ei effaith.

4.5Tai – mae'n rhaid i'r cynllun wneud darpariaeth ar gyfer lefel o ddatblygiad tai sy’n ddigonol i sicrhau parhad poblogaeth sy'n economaidd gynaliadwy drwy gydol cyfnod y cynllun a thu hwnt. Bydd hyn yn cynnwys tai o amrywiaeth o fathau a deiliadaethau, gan gynnwys tai fforddiadwy a thai sy’n addas ar gyfer byw bywyd hŷn, mewn lleoliadau cynaliadwy.

4.6Iechyd a lles meddyliol a chorfforol – mae'r Fwrdeistref Sirol yn parhau i ddangos lefel gymharol uchel o salwch hirdymor, ac mae anghydraddoldebau iechyd sylweddol yn parhau i fodoli. Dylai'r 2RLDP geisio gweithredu, i'r graddau y gall wneud hynny, fesurau sy'n cyfrannu at fynd i'r afael â hyn, mewn termau defnydd tir, a dylai gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r gymuned o ran cyflawni eu blaenoriaethau.

4.7Creu Lleoedd – mae'r Fwrdeistref Sirol yn cynnwys amrywiaeth o fathau ar aneddiadau a mannau a thirweddau rhyngddynt, y mae pob un ohonynt yn cyfrannu at gynaliadwyedd yr ardal leol a'r rhanbarth ehangach y mae'n rhan ohono. Mae'n rhaid i'r cynllun ganiatáu datblygu cymunedau hyblyg, hygyrch a rhyng-gysylltiedig, gyda phob un yn cynnig ystod briodol a chynaliadwy o gyfleusterau a gwasanaethau, ynghyd â'r seilwaith ategol angenrheidiol.

4.8Diwylliant a threftadaeth – mae gan y Fwrdeistref Sirol amrywiaeth o asedau diwylliannol a hanesyddol, y mae gan y system gynllunio gryn ddylanwad arnynt. Dylid annog ailddefnyddio asedau hanesyddol yn addas, lle bo hynny'n briodol. Lle bo'n berthnasol, dylid ystyried cynigion yng nghyd-destun yr amgylchedd hanesyddol a'i leoliad, a'r angen i feithrin a hyrwyddo datblygu a defnyddio'r Gymraeg.

4.9Teithio llesol a chynaliadwy – yng nghyd-destun menter Metro De Ddwyrain Cymru, bydd y syniad o hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ryng-gysylltedd rhwng aneddiadau ac oddi mewn iddynt o'r pwys mwyaf o ran creu cymunedau sy'n gydlynol yn gymdeithasol, yn economaidd ddichonol ac yn amgylcheddol gyfrifol.

4.10Twf economaidd – er ei fod yn dangos rhywfaint o amrywiaeth, nodweddir economi leol y Fwrdeistref Sirol gan weithlu symudol daearyddol sy'n gallu manteisio ar gyfleoedd mewn mannau eraill yn y rhanbarth – a mynychder parhaus gweithgynhyrchu. Bydd y 2RLDP yn ceisio darparu ystod a chwantwm digonol o dir cyflogaeth er mwyn diwallu angen lleol, sicrhau bod canol trefi’r Fwrdeistref Sirol yn gallu gwneud y gorau o'u gallu i addasu i dirluniau manwerthu sy'n newid, ac yn hyrwyddo integreiddio defnyddiau tir cyflenwol sy'n canolbwyntio ar yr economi lle bo hynny'n briodol.

4.11Amgylchedd naturiol – mae gan y Fwrdeistref Sirol ystod o gynefinoedd â blaenoriaeth, ardaloedd o dirwedd o ansawdd uchel a mannau agored eraill, ac mae'r angen i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu diogelu a hyrwyddo newidiadau cadarnhaol o ran bioamrywiaeth ac ansawdd amgylcheddol y tu hwnt i amheuaeth. Serch hynny, mae'n rhaid cydbwyso hyn â'r angen i gefnogi datblygiad cynaliadwy'r amgylchedd adeiledig a'r seilwaith cysylltiedig a thrwy barhau i ddiogelu adnoddau cyfanredol ac ennill a gweithio mwynau, a gwneud newidiadau cadarnhaol o ran datgarboneiddio h.y. cynlluniau ynni adnewyddadwy sydd wedi'u lleoli'n briodol.

Gweledigaeth Sylw

4.12Mae'r weledigaeth ar gyfer yr 2RLDP yn edrych ymlaen at ddiwedd cyfnod y cynllun (2035) ac yn rhagweld sut y bydd y polisïau, y dyraniadau safle a'r dynodiadau a nodir yn y cynllun yn cyfrannu at gymdeithas fwy cadarnhaol yn nhermau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol. Mae'n sefydlu'r cyfeiriad cyffredinol a fynegir ymhellach yn yr amcanion mwy penodol sy'n dilyn ac yn ffurfio'r cysylltiad rhwng y strategaeth twf gofodol a'r polisïau strategol.

Bydd y 2RLDP yn cyflawni datblygiad deniadol a chynaliadwy sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y Fwrdeistref Sirol ac yn ymweld â hi, a hefyd yn gwella eu llesiant. Erbyn 2035, bydd y Strategaeth Ddatblygu wedi:

  • Manteisio ar ei leoliad strategol yng nghanol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd er mwyn sicrhau datblygiad economi leol ffyniannus, gan fanteisio ar gryfderau presennol sylfaen weithgynhyrchu'r Fwrdeistref Sirol i greu sylfaen economaidd gytbwys ac amrywiol, gan ddarparu ar gyfer cyflogaeth o ansawdd uchel a gweithlu medrus a hyblyg;
  • Manteisio i'r eithaf ar y cyfle a gynigir gan Metro De Cymru, gan gynyddu hygyrchedd rhwng, ac o fewn, aneddiadau trwy amrywiaeth o opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys teithio llesol, a gwella cysylltedd rhwng y Fwrdeistref Sirol a'r rhanbarth ehangach;
  • Galluogi arallgyfeirio canol trefi’r Fwrdeistref Sirol i adlewyrchu newidiadau mewn ymddygiad manwerthu, gan ddarparu ar gyfer ystod o ddefnyddiau cyflenwol yn y lleoliadau hyn a gwella eu prif rolau fel canolfannau gweithgaredd masnachol a chymunedol;
  • Creu, cynnal a chadw a gwell,a seilwaith glas a gwyrdd ar draws y Fwrdeistref Sirol drwy ei ymgorffori yn nyluniad datblygu a hyrwyddo diogelu a gwella ardaloedd pwysig ar gyfer cadwraeth natur ac iechyd a lles pobl;
  • Diogelu amgylcheddau naturiol a hanesyddol y Fwrdeistref Sirol, gan sicrhau y caniateir i fioamrywiaeth ffynnu a bod tirwedd ac asedau diwylliannol a'u lleoliadau yn cael eu diogelu;
  • Darparu cwantwm priodol o dai fforddiadwy a thai marchnad o ystod o fathau a daliadau mewn lleoliadau cynaliadwy;
  • Cydnabod cymeriad amrywiol ac unigryw trefi a phentrefi'r Fwrdeistref Sirol, gan roi egwyddorion creu lleoedd wrth wraidd dylunio ac annog cyfoeth ac amrywiaeth ddiwylliannol;
  • Gwella'r rhwydwaith strategol o gyfleusterau adloniant, hamdden, addysg a chymunedol er mwyn adeiladu cymunedau gwydn, cydlynol ac ennyn gwell ansawdd bywyd; a
  • Cryfhau gwydnwch y Fwrdeistref Sirol i effaith newid yn yr hinsawdd trwy addasu, lliniaru a dylunio, a gweithredu cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn lleoliadau priodol.

Yr Amcanion Sylw

4.13Mae pob un o'r materion a gyflwynir uchod wedi'u trosi'n nifer o amcanion penodol, sy'n adlewyrchu dyheadau cyfunol polisïau, dyraniadau safleoedd a dynodiadau'r 2RLDP ac y bwriedir iddynt, gyda'i gilydd, wireddu'r weledigaeth a nodir uchod. Mae'r amcanion hyn nid yn unig yn adlewyrchu polisi cynllunio cenedlaethol, ond hefyd ddyheadau'r Cyngor a rhanddeiliaid allweddol.

4.14Mae'r amcanion wedi'u rhestru, ynghyd â'u perthynas â'r Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy, saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, amcanion llesiant y Cyngor a pholisïau’r 2RLDP.

Amcan 1 - Newid yn yr Hinsawdd Sylw

  1. Sicrhau bod cynigion datblygu yn mynd i'r afael yn llawn ag addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd ac yn cynnwys mesurau sy'n unol â'r hierarchaeth ynni;
  2. Sicrhau bod cynigion datblygu yn cyfrannu at gyflawni targedau di-garbon Llywodraeth Cymru a rhoi sylw i 'argyfwng hinsawdd’ y Cyngor drwy hyrwyddo datblygiad cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn lleoliadau priodol;
  3. Ceisio hyrwyddo datblygiad sy'n cadw at egwyddorion datgarboneiddio drwy fesurau dylunio priodol;
  4. Sicrhau bod cynigion datblygu yn cael eu tanategu gan egwyddorion economi gylchol, atal gwastraff trwy ystyried dewisiadau dylunio a thrin safleoedd a gwneud darpariaeth ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff cynaliadwy sy'n adlewyrchu trefn flaenoriaeth yr hierarchaeth gwastraff.

Amcanion Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol:

  • Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
  • Tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy
  • Gwneud y mwyaf o ddiogelu'r amgylchedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol

Nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru gydnerth

Amcanion Llesiant Cynllun Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023–2028 (Diwygiwyd 2026):

  • WB05: Galluogi ein Hamgylchedd i fod yn Wyrddach

Polisïau 2RLDP:

SP1, SP2, SP4, SP6, PM1, PM3, HO5, SP10, TR1, TR3, TR4, TR5, TR6, SP11, RC1-RC4, TM2, EN1-EN2, NA3, HE1-3

Amcan 2 - Tai Sylw

  1. Darparu ar gyfer cyflenwi cyflenwad tai sy'n ddigonol i ddarparu ar gyfer lefelau cynaliadwy o dwf yn y boblogaeth, yn unol â statws y Fwrdeistref Sirol o fewn Ardal Dwf Genedlaethol Cymru'r Dyfodol;
  2. Sicrhau bod ystod ddigonol a phriodol o safleoedd tai ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy i fodloni gofynion tai pob rhan o'r boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys cartrefi sy'n fforddiadwy ac yn addasadwy i bobl o bob oedran.

Amcanion Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol:

  • Creu a Chynnal Cymunedau
  • Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
  • Tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy
  • Gwneud y mwyaf o ddiogelu'r amgylchedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol
  • Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach

Nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Amcanion Llesiant Cynllun Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023–2028 (Diwygiwyd 2026):

  • WB02: Galluogi ein Trigolion i Ffynnu
  • WB03: Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu

Polisïau 2RLDP:

SP1, SP2, SP4, SP6, PM1, PM3, HO5, SP10, TR1, TR3, TR4, TR5, TR6, SP11, RC1-RC4, HE1-3

Amcan 3 - Iechyd a Llesiant Meddygol a Chorfforol Sylw

  1. Rheoli, cadw a gwella ansawdd mannau gwyrdd a thirweddau naturiol gwerthfawr a'u diogelu rhag ffurfiau amhriodol o ddatblygiad, a sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn cael ei gwasanaethu'n dda gan fannau agored cyhoeddus hygyrch;
  2. Hyrwyddo hygyrchedd i bawb drwy flaenoriaethu cerdded a beicio (teithio llesol), a thrwy hynny leihau llygredd aer;
  3. Galluogi darparu ystod eang o gyfleusterau cymunedol, sydd wedi'u lleoli'n briodol ac yn hawdd eu cyrraedd, ac sy'n cyfrannu at wella iechyd a lles;
  4. Galluogi cynigion datblygu sy'n hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac adfywio lleol sy'n cyfrannu at leihau anghydraddoldebau iechyd.

Amcanion Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol:

  • Creu a Chynnal Cymunedau
  • Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
  • Tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy
  • Gwneud y mwyaf o ddiogelu'r amgylchedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol
  • Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach

Nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Amcanion Llesiant Cynllun Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023–2028 (Diwygiwyd 2026):

  • WB02: Galluogi ein Trigolion i Ffynnu
  • WB03: Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu

Polisïau 2RLDP:

SP1, SP2, SP3, SP6, PM1, PM3, HO5, SP10, TR1, TR3, TR4, TR5, TR6, SP11, RC1-RC4, NA3, CF1-2, LE1-5

Amcan 4 - Creu Lleoedd Sylw

  1. Sicrhau bod pob cynnig datblygu newydd yn cyfrannu at greu ymdeimlad o le drwy'r lleoliad priodol o ddefnyddiau sy'n wahanol, ond yn gyflenwol, a thrwy hynny ddiogelu a gwella cymeriad cymunedol, diogelwch, hygyrchedd, cydraddoldeb a hyrwyddo egwyddorion dylunio da;
  2. Annog ailddefnyddio a/neu adfer tir llwyd a thir halogedig priodol ac atal achosion o halogi ac esgeuluso pellach.

Amcanion Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol:

  • Creu a Chynnal Cymunedau
  • Tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy
  • Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
  • Gwneud y mwyaf o ddiogelu'r amgylchedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol
  • Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach

Nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Amcanion Llesiant Cynllun Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023–2028 (Diwygiwyd 2026):

  • WB02: Galluogi ein Trigolion i Ffynnu
  • WB03: Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu

Polisïau 2RLDP:

SP1, SP2, SP3, SP6, PM1, PM3, HO5, SP10, TR1, TR3, TR4, TR5, TR6, SP11, RC1-RC4, NA3, CF1-2, LE1-5, HE1-3

Amcan 5 - Diwylliant a Threftadaeth Sylw

  1. Sicrhau bod cynigion datblygu yn gwarchod ac yn gwella amgylchedd adeiledig hanesyddol y Fwrdeistref Sirol, yn annog ailddefnyddio addasol, yn ymateb yn briodol i'r cyd-destun lleol unigryw ac yn cyflawni safonau dylunio uchel;
  2. Cynnal a gwella cyfleusterau diwylliannol y Fwrdeistref Sirol, a lle bo hynny'n briodol, sicrhau cyfleoedd i gyfoethogi diwylliannol o fewn datblygiadau newydd, gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, y parth cyhoeddus a thrwy ddarparu mannau cymunedol ac adeiladau amlbwrpas.

Amcanion Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol:

  • Creu a Chynnal Cymunedau
  • Tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy
  • Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
  • Gwneud y mwyaf o ddiogelu'r amgylchedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol
  • Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach

Nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Amcanion Llesiant Cynllun Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023–2028 (Diwygiwyd 2026):

  • WB02: Galluogi ein Trigolion i Ffynnu
  • WB03: Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu

Polisïau 2RLDP:

SP3, SP6, PM1, SP11, RC1-RC4, CF1-2, LE1-5, TM1-4, HE1-3

Amcan 6 - Teithio Llesol a Chynaliadwy Sylw

  1. Sicrhau bod lleoliad datblygiad newydd yn hwyluso mynediad hawdd at drafnidiaeth gynaliadwy a theithio llesol a bod y datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â rôl a swyddogaeth aneddiadau yn unol â'r hierarchaeth aneddiadau;
  2. Lleihau'r angen i deithio drwy hyrwyddo cymysgedd o ddyraniadau defnydd tir cyflenwol mewn lleoliadau cynaliadwy;
  3. Hyrwyddo datblygiad system drafnidiaeth gyhoeddus integredig a chynaliadwy yng nghyd-destun Metro De-ddwyrain Cymru a sicrhau bod datblygiad newydd mawr yn cael ei gyfeirio at leoliadau sy'n hawdd eu cyrraedd trwy gerdded a beicio.

Amcanion Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol:

  • Creu a Chynnal Cymunedau
  • Tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy
  • Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
  • Gwneud y mwyaf o ddiogelu'r amgylchedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol
  • Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach

Nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcanion Llesiant Cynllun Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023–2028 (Diwygiwyd 2026):

  • WB02: Galluogi ein Trigolion i Ffynnu
  • WB03: Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu
  • WB05: Galluogi ein Hamgylchedd i fod yn Wyrddach

Polisïau 2RLDP:

SP1, SP2, SP3, SP6, PM1, PM3, HO5, SP10, TR1, TR3, TR4, TR5, TR6, SP11, RC1-RC4

Amcan 7 - Twf Economaidd Sylw

  1. Manteisio ar safle'r Fwrdeistref Sirol o fewn Ardal Dwf Genedlaethol Cymru'r Dyfodol, gan gefnogi adfywio a buddsoddi cydgysylltiedig i wella llesiant, cynyddu ffyniant a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol;
  2. Darparu a diogelu portffolio amrywiol o dir cyflogaeth ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau yn y lleoliadau mwyaf priodol, gan sicrhau bod swyddi a thai yn cyd-fynd â gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy;
  3. Hyrwyddo rôl canol trefi’r Fwrdeistref Sirol fel y lleoliadau mwyaf cynaliadwy i fyw ac i weithio ynddynt, i ymweld â nhw ac i gynnal busnes ynddynt, gan sicrhau eu bod yn hygyrch drwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy;
  4. Galluogi datblygu sector twristiaeth cynaliadwy ac economi ymwelwyr, gan gydnabod ei gyfraniad at les economaidd y Fwrdeistref Sirol.

Amcanion Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol:

  • Creu a Chynnal Cymunedau
  • Tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy
  • Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
  • Gwneud y mwyaf o ddiogelu'r amgylchedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol
  • Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach

Nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Amcanion Llesiant Cynllun Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023–2028 (Diwygiwyd 2026):

  • WB02: Galluogi ein Trigolion i Ffynnu
  • WB03: Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu
  • WB04: Galluogi ein Heconomi i Dyfu
  • WB05: Galluogi ein Hamgylchedd i fod yn Wyrddach

Polisïau 2RLDP:

SP1, SP2, SP3, SP6, PM1, PM3, HO5, SP10, TR1, TR3, TR4, TR5, TR6, SP11, RC1-RC4, HE1-3

Amcan 8 – Amgylchedd Naturiol Sylw

  1. Diogelu ansawdd, cysylltedd a gwytnwch rhwydwaith seilwaith gwyrdd a glas y Fwrdeistref Sirol trwy nodi asedau seilwaith a bioamrywiaeth werdd a glas newydd, a diogelu a gwella asedau seilwaith a bioamrywiaeth werdd a glas presennol;
  2. Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddarparu budd bioamrywiaeth net drwy gynllun a dyluniad priodol;
  3. Sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, gan gynnwys parhau i ddiogelu adnoddau cyfanredol ac ennill a gweithio mwynau mewn lleoliadau priodol, lle ceir cynigion addas ar gyfer adfer ac ôl-ofal safleoedd.

Amcanion Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol:

  • Creu a Chynnal Cymunedau
  • Tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy
  • Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
  • Gwneud y mwyaf o ddiogelu'r amgylchedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol
  • Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach

Nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcanion Llesiant Cynllun Corfforaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023–2028 (Diwygiwyd 2026):

  • WB05: Galluogi ein Hamgylchedd i fod yn Wyrddach

Polisïau 2RLDP:

SP1, SP2, SP4, SP5, SP6, PM1, PM3, MN1-6, NA1, NA2, NA3, GI1, EP1, EP3

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig