Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)

Daeth i ben ar 30 Tachwedd 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

7 Y Strategaeth a Ffefrir

Mireinio'r Strategaeth a Ffefrir

7.1 Mae'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer yr 2RLDP yn hybrid rhwng 3 opsiwn gwahanol. O ganlyniad, mae angen mireinio'r strategaeth i nodi'r elfennau o bob opsiwn strategaeth a fydd yn cael ei gyfuno i gyflwyno strategaeth gyffredinol a chydlynus ar gyfer y cynllun.

Ardaloedd o Dwf

7.2 Mae'r Strategaeth a Ffefrir wedi'i dylanwadu'n drwm gan ddau opsiwn strategaeth penodol sy'n cydymffurfio ag ystyriaethau polisi a amlinellwyd yng Nghymru'r Dyfodol, sef Opsiwn 4: Ffocws Buddsoddiad y Metro (Polisi Cymru'r Dyfodol 12 – Cysylltedd Rhanbarthol, Polisi 36 – Metro'r De-ddwyrain), ac Opsiwn 5 – Canol Trefi yn Gyntaf (Polisi Cymru'r Dyfodol 6 – Canol Trefi yn Gyntaf).

7.3 Mae Ffocws Buddsoddiad y Metro yn gofyn i ddatblygiad gael ei leoli'n agos i gysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy, yn bennaf prif orsafoedd bysus a rheilffyrdd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Lleolir y gorsafoedd rheilffordd yn y Fwrdeistref Sirol ar Linell Cwm Rhymni, sy'n rhedeg ar hyd ochr orllewinol y Fwrdeistref Sirol o Gaerffili i Rymni, a Llinell Glyn Ebwy sy'n rhedeg ar ochr ddwyreiniol y Fwrdeistref Sirol o Risca i Drecelyn a Chrymlyn. Dylid nodi nad yw Coed Duon wedi'i lleoli ar linell rheilffordd ac er bod Nelson ar linell Cwmbargoed, nid oes ganddi wasanaethau i deithwyr. Fodd bynnag, mae gan y ddwy ganolfan bysus a fyddai'n eu cynnwys o dan ffocws y Metro. Yn ogystal â'r ddwy ganolfan hon, mae gan Fargoed a Caerffili orsafoedd bysus hefyd.

7.4 Mae'r Polisi Canol Tref yn Gyntaf yn ceisio lleoli datblygiad mewn ac yn agos i drefnu a dinasoedd presennol ar draws y rhanbarth. O ran y Fwrdeistref Sirol, mae hyn yn golygu lleoli datblygiadau'n agos iawn i Brif Ganolau Trefi'r Fwrdeistref Sirol a'i Chanolfannau Lleol.

7.5 Mae gan y Prif Ganolau Trefi a Chanolfannau Lleol oll orsafoedd rheilffyrdd a bysus mawr, ac eithrio Bedwas sy'n agos iawn i Gaerffili ac, felly, mae'r ddau opsiwn yn nodi gofyniad i nodi twf a datblygu newydd yn agos i'r canolfannau hyn.

7.6 Fel arfer, byddai'r cynllun yn nodi meysydd strategaeth lle bydd disgwyl lefelau penodol o dwf a datblygiad. Fodd bynnag, nid yw natur linellol y gorsafoedd metro a dosbarthiad prif ganolfannau a chanolfannau lleol yn ei gwneud hi'n hawdd creu ardaloedd o strategaeth ofodol gydlynol. O ganlyniad, nid yw'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi ardaloedd strategaeth ofodol yn y Fwrdeistref Sirol.

7.7 Heb ardaloedd strategaeth ofodol ddiffiniedig, caiff dosbarthiad datblygiadau newydd ei ddiffinio o amgylch y Prif Ganolfannau 'r rhai Lleol, sydd wedi'u nodi yn yr Hierarchaeth Anheddiad.

Polisi PS3: Hierarchaeth Anheddiad

PS3 Mae'r hierarchaeth anheddiad ganlynol wedi'i nodi ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Bydd datblygu a thwf newydd yn cael eu canolbwyntio ar y Prif Ganolau a Chanolfannau Lleol a nodwyd yn yr Hierarchaeth Anheddiad ganlynol i gefnogi eu rôl a'u swyddogaeth:

Prif Ganolfannau

  • Bargoed
  • Coed-duon
  • Ystrad Mynach
  • Risca/Pont-y-meister
  • Caerffili

Canolfannau Lleol

  • Rhymni
  • Nelson
  • Trecelyn
  • Bedwas

Aneddiadau Preswyl

  • Yr holl aneddiadau eraill a leolir o fewn ffiniau aneddiad diffiniedig

Aneddiadau Gwledig

  • Yr holl aneddiadau eraill a leolir y tu allan i ffiniau aneddiad diffiniedig

Polisi PS4: Ardaloedd o Dwf

PS4 Caiff twf a datblygiadau newydd eu targedu tuag at Brif Ganolfannau a Chanolfannau Lleol

Caiff datblygu ei ganiatáu mewn Aneddiadau Preswyl lle mae'n cyd-fynd â rôl a swyddogaeth yr anheddiad a lle mae'n seiliedig ar egwyddorion creu lleoedd cadarn ac yn hyrwyddo cludiant cynaliadwy

Ni fydd datblygiadau mewn Aneddiadau Gwledig fel arfer yn cael eu caniatáu oni bai bod y datblygiad ar raddfa fach ac yn cynnwys mewnlenwi ffryntiad adeiledig neu'n broses o dalgrynnu resymegol.

Y Safle Strategol

7.8 Y mater nesaf i'w ystyried yw a ddylai'r strategaeth nodi safle strategol, h.y. safle a fyddai'n hanfodol i gyflwyno'r strategaeth oherwydd ei faint ac y byddai unrhyw fethiant o ran cyflwyno'n tanseilio cyflwyno'r strategaeth. Dim ond un safle o arwyddocâd a gyflwynwyd i'r Cyngor i'w ystyried o dan y broses Safleoedd Ymgeisiol, a hwnnw yw safle Parc Gwernau ym Maes-y-cwmwr. Mae'r safle'n cynnwys 212 hectar o dir i ochr ddeheuol anheddiad presennol Maes-y-cwmwr ac mae'n gallu cynnig lle i oddeutu 2,700 o anheddau gydag isadeiledd atodol a chyfleusterau cymunedol. Elfen allweddol o'r safle yw darpariaeth ffordd mynediad newydd a fydd hefyd yn darparu gwelliant i brifffordd strategol i liniaru problemau tagfeydd ar yr A472 drwy Faes-y-cwmwr.

7.9 Mae safle Maes-y-cwmwr yn safle mawr iawn mewn perthynas â datblygu yn y Fwrdeistref Sirol a byddai'n afrealistig cynig y dylid cyflawni'r holl ddatblygiad o fewn cyfnod y cynllun 2RLDP. O ganlyniad, byddai angen cyflawni'r safle dros gyfnod ddau gynllun datblygu. Golyga hyn, os caiff ei nodi yn y cynllun, bydd angen i'r 2RLDP nodi'r ganran o'r safle i'w gyflawni hyd at 2035 a bydd y gweddill yn cael ei gyflawni'n unol â'r cynllun dilynol.

7.10 Y cwestiwn yw a ddylai'r Strategaeth a Ffefrir nodi lefel sylweddol o ddatblygu a fyddai'n cyfrif fel safle strategol, y byddai'n tanseilio cyflawniad y strategaeth os na fyddai'n cael ei gyflawni, neu a ddylid nodi lefel is o ddatblygu a fyddai'n golygu nad yw cyflawni'r strategaeth yn gwbl ddibynnol ar y dyraniad yn mynd rhagddo yn ystod cyfnod y cynllun. Mae'r strategaeth hybrid yn cynnwys Opsiwn Safle Strategol fel rhan o'r Strategaeth a Ffefrir gyffredinol ac felly dylid cynnwys y safle ym Maes-y-cwmwr yn yr 2RLDP.

7.11 Mae gan ddull cyllido'r ffordd oblygiadau sylweddol o ran sut caiff y datblygiad ei gynllunio o ran camau a'u cyflawni ac, yn hollbwysig, ar ba adeg y caiff datblygiad y ffordd fynediad ei gyflawni'n llawn. Byddai'r opsiwn cyntaf, lle byddai'r Cyngor yn darparu cyllid i gyflawni'r ffordd ar ddechrau'r datblygiad, yn ei gwneud hi'n bosib cyflawni'r datblygiad wrth symud yn gyffredinol o'r gogledd i'r de, gyda'r fantais o'r ffordd yn ei lle o ddechrau'r datblygiad, gan ddarparu gwelliant strategol o'r dechrau.

7.12 Byddai'r ail opsiwnn, gyda chyllid ar gyfer y ffordd yn deillio'n gyfan gwbl o'r datblygiad, yn golygu y byddai angen cyflawni cydran uchel o'r datblygiad cyn creu'r cyfalaf angenrheidiol o'r cynllun i gyflawni'r ffordd yn ei chyfanrwydd. Yn yr opsiwn hwn, mae'n debygol y byddai'r datblygiad yn dechrau ar bennau gogleddol a deheuol y datblygiad arfaethedig a byddai gwaith datblygu yn mynd yn ei flaen o'r ddau ben ac yn cwrdd yng nghanol y safle ar ddiwedd y datblygiad. Byddai hyn yn arwain at oblygiadau penodol ar gyfer darpariaeth y ffordd oherwydd byddai'n anhebygol o gael ei chyflawni tan gamau terfynol y datblygiad, ac o bosib y tu hwnt i gyfnod y cynllun 2RLDP. Byddai hefyd yn golygu y byddai'r rhaid i'r datblygiad gynnig lle i'r traffig ychwanegol a grëir ar y rhwydwaith trafnidiaeth presennol, gan roi straen ychwanegol ar y rhwydwaith presennol, lle byddai angen gwneud gwelliannau i'r rhwydwaith priffyrdd strategol.

7.13 Byddai nodi safle Maes-y-cwmwr fel Safle Strategol yn galluogi'r 2RLDP i nodi lefel uwch o lawer o ddatblygu ar y safle na phe tai'r safle'n cael ei gynnwys fel dyraniad arferol. Mae darpariaeth lefel uwch o ddatblygiad yn golygu y byddai mwy o'r manteision i'r gymuned a'r isadeiledd yn cael eu cyflawni yn ystod cyfnod y cynllun, gan fod y fantais i breswylwyr presennol a newydd Maes-y-cwmwr yn gynharach yn y datblygiad.

7.14 Wedi pwyso a mesur, yr ymagwedd orau ar gyfer y safle yw cyflawni cymaint o'r datblygiad ag sy'n rhesymol yn ystod cyfnod y cynllun. Mae'r senario hwn yn darparu'r manteision mwyaf o'r safle yn ystod cyfnod y cynllun, gan gyfrannu'n sylweddol at gyflawni'r gofynion aneddiad yn ogystal â darparu isadeiledd a gwelliant i'r rhwydwaith priffyrdd strategol a fydd yn cynorthwyo symudiadau bysus drwy Faesycwmwr. Felly, bydd yr 2RLDP yn neilltuo safle Maes-y-cwmwr fel Safle Strategol i gyflawni oddeutu 1,200 o aneddau (allan o gyfanswm o oddeutu 2,700 o aneddau) yn ystod cyfnod y cynllun. Yn ogystal, bydd y safle'n cael ei nodi yn y Strategaeth a Ffefrir fel Safle Strategol.

Polisi PS5: Safle Strategol, Maes-y-cwmwr

PS5 Tir ym Mharc Gwernau

Safle a arweinir gan dai a fydd yn darparu 1,200 o gyfanswm o 2,700 annedd yn ystod cyfnod y cynllun, gydag isadeiledd atodol a chysylltiedig, gan gynnwys darpariaeth ffordd fynediad newydd a fydd yn darparu gwelliant rhwydwaith priffordd strategol ar gyfer yr A472.

https://www.asbriplanning.co.uk/public-engagement/parc-gwernau-maesycwmmer/

Materion Defnyddio Tir Allweddol

7.15 Mae Pennod 3 yn amlinellu'r materion defnyddio tir allweddol y bydd yn rhaid i'r 2RLDP fynd i'r afael â nhw er mwyn i'r cynllun fod yn llwyddiannus. Mae'r Polisïau sy'n dilyn yn adlewyrchu'r prif faterion strategol sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol ac yn darparu fframwaith polisi cyffredinol ar gyfer mynd i'r afael â nhw.

7.16 Mae'r mater o newid yn yr hinsawdd a'i oblygiadau yn ystyriaeth allweddol ar gyfer unrhyw gynllun datblygu a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd yn ogystal â lleihau allyriadau sy'n cyfrannu tuag at newid yn yr hinsawdd

Polisi PS6: Newid yn yr Hinsawdd

PS6 Rhaid i'r holl gynigion datblygu wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at fynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd, ac addasu i'r effeithiau hynny, drwy ddangos bod dyluniad a datblygiad wedi ystyried y canlynol:

A Mae'r cynigion yn cynyddu'r effeithiolrwydd adnoddau ac yn defnyddio technegau adeiladu cynaliadwy ac yn defnyddio deunyddiau lleol;

B Mae'r cynigion yn hyrwyddo gofynion ynni carbon isel/dim carbon drwy leihau'r defnydd o ynni a hyrwyddo effeithiolrwydd ynni;

C Mae'r cynigion yn cynyddu'r cyfleoedd ar gyfer technoleg ac ailbweru ynni adnewyddadwy;

D Mae'r cynigion yn cynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cyd-leoli datblygiadau a hyrwyddo trafnidaeth cynaliadwy, yn unol â'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy;

E Mae'r cynigion wedi'u cynllunio i fod yn wydn yng ngwyneb effeithiau newid yn yr hinsawdd, a lliniaru ar eu cyfer;

F Mae'r cynigion yn hyrwyddo dadgarboneiddio;

G Nid yw'r datblygiad yn ardal sydd mewn perygl o lifogydd sy'n codi o gyrsiau dŵr, dyfroedd daear neu ddŵr wyneb, wrth fwyafu effeithiolrwydd dŵr a lleihau effeithiau niweidiol ar ansawdd yr adnoddau dŵr;

H Mae'r cynigion yn hyrwyddo gwydnwch drwy gynyddu'r cyfleoedd ar gyyfer gwella isadeiledd gwyrdd fel rhan o gynllun y datblygiad.

7.17 Mae dadgarboneiddio, fel mesur i fynd i'r afael â'r hyn sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang a lliniaru yn erbyn ei effeithiau, yn llinyn allweddol ym mholisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu. Mae creu ynni o ffynonellau adnewyddadwy a dim carbon yn rhan hanfodol o gyflawni dadgarboneiddio. Mae Cymru'r Dyfodol yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor fod yn rhagweithiol wrth gyflawni dull o greu ynni adnewyddadwy ac yn nodi Ardaloedd Cyn Asesu ledled Cymru lle mewn egwyddor, mae ynni'r gwynt yn dderbyniol a lle mae'r egwyddor o newid tirwedd yn cael ei derbyn. Ar raddfa fwy lleol, bydd y Cyngor yn cefnogi ac yn annog cynlluniau priodol ar gyfer creu ynni adnewyddadwy a bydd hefyd yn gweithio ar y cyd â darparwyr ynni i gyflawni'r cynlluniau priodol. I adlewyrchu hyn, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys polisi i gefnogi darpariaeth ynni adnewyddadwy.

Polisi PS7: Creu Ynni Adnewyddadwy

PS7 Bydd y Cyngor yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynlluniau creu ynni o ffynonellau adnewyddadwy a dim carbon.

7.18 Mae cyflawni Datblygu Cynaliadwy yn ddyletswydd i bob awdurdod lleol ledled Cymru. Mae datblygu cynaliadwy a chreu lleoedd cynaliadwy yn hybu ffyrdd o fyw sy'n actif ac yn iach ac yn cyfrannu'n sylweddol at lesiant. Mae cyflawni datblygu cynaliadwy wedi'i ategu gan greu lleoedd, a chaiff y cynllun ei ategu gan egwyddorion creu lleoedd cadarn.

Polisi PS8: Egwyddorion Creu Lleoedd

PS8 Rhaid i'r holl gynigion datblygu wella llesiant drwy amddiffyn a gwella agweddau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y Fwrdeistref Sirol a chyfrannu tuag at yr egwyddorion creu lleoedd strategol canlynol:

A creu amrywiaeth cyfoethog o fathau o ddefnydd;

B Darparu amrywiaeth o fathau a deiliadaethau tai;

C Adeiladu lleoedd ar raddfa y gellir ei cherdded, gyda chartrefi, cyfleusterau a chludiant cyhoeddus o fewn pellter o'i gilydd y gellir ei gerdded;

D dwysedd poblogaeth sy'n cynyddu, gyda datblygu wedi'i adeiladu mewn dwyseddau trefnol sy'n gallu cefnogi cludiant cyhoeddus a chyfleusterau lleol;

E sefydlu rhwydwaith athraidd o strydoedd, gyda hierarchaeth sy'n llywio natur y datblygiad;

F hyrwyddo ymagwedd sy'n seiliedig ar leiniau at ddatblygu, sy'n darparu cyfleoedd i ddatblygu'r lleiniau bach, gan gynnwys adeiladwyr pwrpasol ac hunan-adeiladu; a

G integreiddio isadeiledd gwyrdd, wedi'i lywio gan Asesiad o Isadeiledd Gwyrdd yr awdurdod cynllunio.

7.19 Mae rhwymedigaeth y Cyngor i gyflawni dyletswydd o fioamrywiaeth a dyletswydd i gyflawni datblygu cynaliadwy yn golygu bod isadeiledd gwyrdd a glas yn ystyriaeth bwysig mewn unrhyw gynigion datblygu a rhaid bod yn elfen hanfodol o'u cynllunio. Rhaid i'r Cyngor gynnal a gwella isadeiledd gwyrdd a glas yn ei benderfyniadau a bydd yn rhaid i'r 2RLDP sicrhau bod gwella isadeiledd gwyrdd a glas wrth wraidd y cynllun. O ganlyniad, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu'r polisi trosfwaol y caiff polisïau manwl eu cyflwyno ar ei sail drwy'r 2RLDP Adnau i gyflawni dyletswyddau'r Cyngor. Felly, bydd yn rhaid i ddatblygwyr ddangos bod cyfleoedd ar gyfer isadeiledd gwyrdd a glas wedi cael eu mwyafu fel rhan o unrhyw gynigion datblygu.

Polisi PS9: Isadeiledd Gwyrdd a Glas

PS9 Rhaid i'r holl gynigion amddiffyn, cynnal a gwella asedau gwella isadeiledd gwyrdd a glas drwy hyrwyddo'r swyddogaethau allweddol canlynol:

A) Bioamrywiaeth, Ecosystemau a Chynefin;

B) Tirwedd ac Ansawdd Lles;

C) Darpariaeth Mannau Gwyrdd;

D) Cysylltedd;

E) Rheolwr dŵr a gwreiddio egwyddorion SuDS yng nghynigion datblygu o'r cychwyn.

7.20 Cyflogaeth yw'r prif fater y bydd yn rhaid i'r 2RLDP fynd i'r afael ag ef i gyflwyno'r Strategaeth a Ffefrir, sy'n seiliedig ar y Fwrdeistref Sirol yn cyflawni twf yn y boblogaeth ac, yn benodol, y boblogaeth economaidd, er mwyn bod mewn sefyllfa i gyflawni targedau Prifddinas-ranbarth Caerdydd o gyflwyno twf o 3.7% mewn swyddi (sef 25,000 o swydd newydd yn y rhanbarth). I wneud hyn, bydd yn rhaid i'r 2RLDP nodi tir ar gyfer datblygu cyflogaeth a fydd yn helpu i fynd i'r afael â phwysau economaidd sydd wedi deillio o effeithiau Covid-19, Brexit a newidiadau naturiol yn yr economi y disgwylir iddynt gael effaith andwyol ar sector cyflogaeth mwyaf y Fwrdeistref Sirol, sef gweithgynhyrchu. Yn ogystal, bydd yr 2RLDP hefyd yn ceisio ehangu a gwella canol y dref a chynnig i ymwelwyr i gynorthwyo wrth greu twf economaidd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

Polisi PS10: Rheoli Twf Cyflogaeth

PS10 Caiff darpariaeth ei gwneud ar gyfer 44.5 hectar o dir i'w nodi at ddiben cyflogaeth er mwyn bodloni gofynion cyflogaeth cyfnod y cynllun. Caiff y ddarpariaeth ei bodloni o safleoedd presennol a newydd sy'n cyd-fynd ag egwyddorion lleoli sy'n agos iawn i'r Prif Ganolfannau a'r Canolfannau Lleol yn y nodau Metro

7.21 Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i'r economi leol, ac mae buddsoddiad sylweddol wedi'i gynllunio i wella'r cynnig i dwristiaid yn y Fwrdeistref Sirol. Mae gweithgareddau adfywio'n canolbwyntio ar wella twristiaeth yn gyffredinol, ynghyd ag ehangu ac annog gweithgareddau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a datblygu llety i ymwelwyr. Elfen allweddol o gyflwyno cynnig gwell i ymwelwyr yw cynyddu hygyrchedd drwy gludiant cynaliadwy, gan gynnwys gwelliannau i'r Metro a gwelliannau llesol lleol sy'n cysylltu asedau twristaidd.

Polisi PS11: Rheoli Twf Twristiaeth

PS11 Bydd y Cyngor yn ceisio ehangu a gwella potensial twristiaid y Fwrdeistref Sirol drwy:

A Nodi tir priodol ar gyfer defnydd sy'n gysylltiedig â thwristiaeth

B Hyrwyddo datblygiad llety i ymwelwyr yn y lleoliadau priodol

C Gwella mynediad i atyniadau twristaidd drwy gludiant cynaliadwy a theithio llesol

D Amddiffyn a gwella asedau naturiol a hanesyddol y Fwrdeistref Sirol sy'n rhoi hunaniaeth unigryw'r Fwrdeistref Sirol iddi

7.22 Mae'n hanfodol bod yr 2RLDP yn darparu tai digonol, o'r math, maint a fforddiadwyedd priodol a'r lleoedd iawn i'w gwneud hi'n bosib i'r Fwrdeistref Sirol ddenu a chynnal y lefel o dwf poblogaeth a fydd yn cefnogi ac yn gwireddu uchelgeisiol y cynllun.

7.23 Rhaid i'r 2RLDP ddarparu tir preswyl digonol i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy a marchnad y cymunedau yn y dyfodol. Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cefnogi gofyniad tai o 6,750 annedd dros gyfnod y cynllun, neu 450 annedd y flwyddyn, yn seiliedig ar senario twf poblogaeth oedran gweithio Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Dyma senario a arweinir gan anheddau a fyddai'n cefnogi twf yn y boblogaeth o oedran gweithio ar lefel a fyddai'n cyd-fynd ag uchelgeisiau twf economaidd Prifddinas-ranbarth Caerdydd a fyddai'n gofyn am lefel o dai sy'n realistig ond yn uchelgeisiol mewn perthynas â thueddiadau'r gorffennol, gan atgyfnerthu safle Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn Ardal Dwf Genedlaethol yng Nghymru'r Dyfodol a chynorthwyo cyflawniad tai fforddiadwy. Mae'r Papur Opsiynau Twf Poblogaeth a Thai yn darparu asesiad mwy manwl o'r senarios sy'n cael eu hystyried a'r cyfiawnhad fel yr opsiwn twf a ffefrir.

7.24 Fel sy'n ofynnol yn ôl y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Rhifyn 3), ychwanegwyd lwfans o 10% i'r gofyniad tai i ganiatáu dewis a hyblygrwydd, oherwydd gallai fod amgylchiadau anrhagweladwy sy'n effeithio ar gyflawni dyraniadau tai. Gallai'r lwfans hyblygrwydd hwn fod yn destun newid yn yr 2RLDP Adnau yn dilyn dyraniad safleoedd yn unol â'r Strategaeth a Ffefrir.

7.25 Caiff y ddarpariaeth o 7,425 o anheddiadau eu cyflawni gan nifer o gydrannau yn y Cyflenwad Tir Tai, fel a amlinellwyd yn Nhabl 3 isod. Mae gwybodaeth fanwl am sut y mae pob un o'r cydrannau wedi'u canfod yn y Papur Sylfaen Tystiolaeth Targed Cyflenwad Tir Tai a Thai Fforddiadwy.

Table 3: Cyfrifo Gofyniad Tai

Cydran y Cyflenwad

Tybiaeth

Nifer yr unedau

Cyfanswm yr unedau a gwblhawyd

Unedau mawr a bach a gwblhawyd yn 2020/21

417

Unedau sy'n cael eu hadeiladu

Ar ddyddiad sylfaen 1 Ebrill 2021

207

Unedau â chaniatâd cynllunio

Dim ond y safleoedd hynny sy'n cael eu hystyried fel rhai y gellir eu cyflawni yng nghyfnod y cynllun (safleoedd mawr yn unig)

1,874

Ceisiadau sy'n aros am benderfyniad

Dim ond y safleoedd hynny sy'n dderbyniol mewn egwyddor (safleoedd mawr yn unig)

343

Safleoedd annisgwyl mawr

Yn seiliedig ar 73 uned y flwyddyn ar gyfartaledd dros 10 mlynedd ddiwethaf cyfnod y cynllun

730

Safleoedd annisgwyl bach

Yn seiliedig ar 60 uned y flwyddyn dros 14 mlynedd sy'n weddill o gyfnod y cynllun

840

Cyfanswm

4,411

Gofyniad Tai

6,750

Darpariaeth Tai

Gofyniad Tai ynghyd â Lwfans Hyblygrwydd (10%)

7,425

Dyraniadau newydd sy'n ofynnol

(Darpariaeth Tai – Cyfanswm)

3,014

7.26 Bydd yr 2RLDP Adnau yn cynnwys llwybr tai, a fydd yn amlinellu'r cyfraddau cyflawni tai disgwyliedig dros gyfnod y cynllun. Bydd hwn yn sail ar gyfer monitro cyflawniad y cydrannau o gyflenwad tai yn erbyn targedau yn y dyfodol.

Polisi PS12: Rheoli Twf Tai

PS12 Caiff darpariaeth ei gwneud ar gyfer tir i'w neilltuo i gynnig lle ar gyfer cyfanswm o 7,425 annedd i fodloni gofyniad tai am 6,750 annedd ar gyfer cyfnod y cynllun, gan gynnwys lwfans hyblygrwydd priodol.

7.27 Nod y Cyngor yw sicrhau bod gan bawb yn y Fwrdeistref Sirol fynediad at gartref o safon sy'n bodloni gofynion tai ac mae darpariaeth amrywiaeth o dai sy'n fforddiadwy i'r boblogaeth leol yn hollbwysig wrth gyflawni hyn. Mae diffyg tai fforddiadwy yn broblem sylweddol sy'n wynebu preswylwyr yn y Fwrdeistref Sirol. Yn wir, mae Asesiad y Farchnad Dai Leol 2018 (LHMA) yn nodi bod diffyg o 282 o unedau fforddiadwy y flwyddyn ar gyfer cyfnod o bum mlynedd 2018-2023.

7.28 Mae'r targed o leiaf 1,360 o anheddau fforddiadwy yn cyfleu nifer yr unedau y disgwylir gallu eu cyflwyno ar draws y Fwrdeistref Sirol drwy ddefnyddio rhwymedigaethau ac amodau cynllunio. Mae'r cydrannau sy'n cyfrannu at y targed tai fforddiadwy wedi'u crynhoi yn Nhabl 4 isod. Mae manylion pellach yn y Papur Sylfaen Tystiolaeth Cyflenwad Tir Tai a Thai Fforddiadwy.

Table 4: Cyfraniad at Darged Tai Fforddiadwy

Cydrannau Targed Tai Fforddiadwy

Nifer yr unedau

A

Cyfanswm o unedau a gwblhawyd (hyd at 31 Mawrth 2021)

75

B

Unedau sy'n cael eu hadeiladu

47

C

Unedau â chaniatâd cynllunio

387

Ch

Ceisiadau sy'n aros am benderfyniad

41

D

Cyfraniad posib o ddyraniadau eraill

652

Dd

Cyfraniadau posib o safleoedd annisgwyl

158

Cyfanswm

1,360

7.29 Caiff polisi sy'n amlinellu trothwyon meintiau mawr iawn a thargedau ardaloedd penodol yn seiliedig ar asesiad cadarn o ddichonoldeb ei gynnwys yn yr 2RLDP Adnau yn dilyn cwblhau diweddariad o'r Asesiad Dichonoldeb Tai Fforddiadwy. Caiff yr 2RLDP Adnau ei gefnogi hefyd gan LHMA wedi'i ddiweddaru sy'n adlewyrchu newidiadau diweddar i fethodoleg yr LHMA.

Polisi PS13: Targed Tai Fforddiadwy

PS13 Bydd y Cyngor yn anelu i gyflawni o leiaf 1,360 o anheddau fforddiadwy drwy'r system gynllunio yn ystod cyfnod y cynllun hyd at 2035 er mwyn cyfrannu at gymunedau cytbwys a chynaliadwy

*Mae'r targed hwn yn seiliedig ar dargedau tai fforddiadwy ardal benodol dichonoldeb a fabwysiadwyd yn y CDLl a gallant newid yn dilyn cwblhau gwaith dichonoldeb manwl a chanlyniadau'r broses asesu safleoedd ymgeisiol a chwblhau'r LHMA newydd.

7.30 Mae symud tuag at foddau cynaliadwy o gludiant yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau newid yn yr hinsawdd, tagfeydd a materion ansawdd aer. Er mwyn mwyafu'r cyfleoedd hyn, bydd yn rhaid i'r holl gynigion datblygu ddangos y cydymffurfiwyd wrth yr hierarchaeth cludiant cynaliadwy.

Polisi PS14: Hierarchaeth Cludiant Cynaliadwy

PS14 Rhaid i'r holl gynigion ddangos bod hygyrchedd a symudiad yn seiliedig ar ddilyn hierarchaeth cludiant cynaliadwy fel rhan hanfodol o ddyluniad y datblygiad a gynigwyd:

1 Cerdded

2 Beicio

3 Cludiant cyhoeddus cynaliadwy

4 Cerbydau trydan a cherbydau allyriadau isel iawn

5 Cerbydau eraill

7.31 Mae Llwybr Newydd, Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021 newydd, yn gosod targed uchelgeisiol o 45% ar yr holl deithiau i'w gwneud drwy ffyrdd cynaliadwy erbyn 2045. I fod o fewn unrhyw gyrraedd o gyflawni'r nod hon, mae'n hanfodol bod cynlluniau datblygu yn cynnwys polisïau uchelgeisiol sy'n mynd i'r afael â'r mater hwn. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae diffyg gwybodaeth sy'n hygyrch i lywio ble'r ydym ni ar hyn o bryd a pha mor bell i lawr yr heol rydym ni tuag at newid moddol. O ganlyniad, nid yw'r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys targed sy'n seiliedig ar Fwrdeistref Sirol benodol. Yn hytrach, mae'n ceisio cyflawni newid yn unol â thargedau cenedlaethol.

Polisi PS15: Newid Moddol

PS15 Bydd y Cyngor yn annog ac yn cefnogi cynigion a fydd yn hyrwyddo newid moddol i helpu wrth gyflawni targed Llywodraeth Cymru o 45% o deithiau drwy foddau cynaliadwy erbyn 2040

7.32 Mae angen gwelliannau i'r system drafnidiaeth, ar gyfer moddau cynaliadwy ac mewn perthynas â'r isadeiledd priffyrdd presennol, er mwyn galluogi cyflawni lefelau arfaethedig o dwf y Strategaeth a Ffefrir. Er bod y Strategaeth yn canolbwyntio ar gludiant cynaliadwy ac yn ceisio lleoli datblygiad sy'n agos i ganolfannau cludiant a gwasanaethau, bydd angen gwelliant i'r isadeiledd Cludiant er mwyn sicrhau hygyrchedd. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn cynnwys gwelliannau i'r rhwydwaith presennol o briffyrdd gan fod trafnidiaeth gynaliadwy yn defnyddio'r rhwydwaith o briffyrdd yn ogystal â'r llwybrau ymrwymedig at ddibenion bysus a theithio llesol. O ganlyniad, mae'r Strategaeth a Ffefrir y ceisio gwella isadeiledd cludiant lle bydd yn cynyddu hygyrchedd ac yn hwyluso cludiant cynaliadwy.

Polisi PS16: Gwelliant i Gludiant

PS16 Bydd y Cyngor yn cefnogi gwelliannau i'r rhwydwaith cludiant a fydd yn:

A Gwella system Metro De-ddwyrain Cymru;

B Gwella mynediad i Brif Ganolfannau a Chanolfannau Lleol a chyfleoedd cyflogaeth;

C Gwella darpariaeth cludiant cynaliadwy;

D Hyrwyddo ac yn galluogi'r defnydd o gerbydau allyriadau hynod isel drwy ddarparu isadeiledd gwefru;

E Gwella'r rhwydwaith teithio llesol drwy gynyddu mynediad mewn ardaloedd lleol;

F Gwella'r rhwydwaith o briffyrdd strategol lle bydd cynigion yn cynyddu mynediad, yn lliniaru yn erbyn tagfeydd, yn cyfrannu tuag at ddibynadwyedd trafnidiaeth gynaliadwy neu'n gwella cadernid y rhwydwaith o briffyrdd strategol;

G Gwella cyfleusterau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys mesurau parc a fyddai'n cynyddu'r newid moddol;

7.33 Fel rhan o weithredoedd i wella'r isadeiledd trafnidiaeth, mae'n hanfodol bod yr 2RLDP yn cynyddu cyfleoedd i addasu hen linellau rheilffyrdd ar gyfer datblygiadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth, gan gynnwys eu datblygu at ddibenion cludiant teithwyr. O ganlyniad, mae'n bwysig amddiffyn hen lwybrau rheilffyrdd rhag datblygiad a allai beryglu eu defnydd yn nhrafnidiaeth y dyfodol. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi ail-sefydlu gwasanaethau teithwyr dwy o'u hen reilffyrdd a bydd yn ceisio hyrwyddo'r rhain drwy'r rhaglen Metro Plus.

Polisi PS17: Amddiffyn Hen Linellau Rheilffyrdd

PS17 Bydd llwybrau'r hen reilffyrdd sydd â'r potensial i fod yn ddatblygiadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn cael eu hamddiffyn, yn enwedig y rhai hynny sy'n hwyluso cerdded, beicio, cargo ar y rheilffyrdd neu symudiadau teithwyr.

7.34 Mae'r Cyngor yn gwbl gefnogol o unrhyw gynigion sy'n hyrwyddo datblygiad Metro De-ddwyrain Cymru. Yn ogystal, bydd y Cyngor hefyd yn gweithio i gefnogi cynigion sy'n gwneud y rhwydwaith trafnidiaeth presennol yn fwy cadarn ac yn fwy effeithiol ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy. Cydnabyddir y gall gwelliannau trafnidiaeth a llwybrau trafnidiaeth newydd gymryd cyfnod sylweddol o amser i gael eu cyflawni ac, o ganlyniad, mae'n hanfodol bod y Cyngor yn amddiffyn llwybrau gwelliannau trafnidiaeth strategol rhag datblygu priodol a allai beryglu eu defnydd at ddibenion trafnidiaeth yn y dyfodol.

Polisi PS18: Amddiffyn Llwybrau Gwella Trafnidiaeth Strategol

PS18 Bydd y Cyngor yn amddiffyn y llwybrau gwella trafnidiaeth strategol canlynol rhag datblygu amhriodol a bydd yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynigion i'w rhoi ar waith:

PS18.1 Llinell rheilffordd Cwmbargoed (ail-sefydlu gwasanaethau teithwyr)

PS18.2 Llinell rheilffordd Caerffili/Machen/Casnewydd (ail-sefydlu gwasanaethau teithwyr)

7.35 Bydd ail-sefydlu hierarchaeth ffyrdd yn hwyluso'r defnydd effeithiol o'r rhwydwaith priffyrdd drwy sicrhau y caiff traffig ei sianelu i'r llwybrau mwyaf priodol er mwyn cynnal yr amgylchedd, amwynderau ac amodau diogelwch mwyaf priodol. Bydd cynnal rhwydwaith o briffyrdd effeithiol a diogel yn cynorthwyo gwasanaethau cludiant cyhoeddus ar ffurf bysus, gan gynnal eu hamlder a sicrhau eu bod yn rhedeg yn unol â'r amserlen.

Polisi PS19: Hierarchaeth Ffyrdd

PS19 Mae'r hierarchaeth ffyrdd ganlynol wedi'i nodi i sicrhau rhwydwaith priffyrdd diogel ac effeithiol:

1 Y Rhwydwaith Priffyrdd Strategol

2 Llwybrau Gwledig

3 Ffyrdd Dosbarthu

4 Ffyrdd Mynediad

7.36 Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn ceisio lleoli datblygiadau'n agos iawn i brif nodau trafnidiaeth gynaliadwy a chanolfannau gwasanaeth yn y Fwrdeistref Sirol. Mae manwerthu yn elfen hanfodol o swyddogaethau mae'r prif ganolfannau gwasanaeth yn eu cyflawni ac o ganlyniad, bydd yr hierarchaeth fanwerthu ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn dylanwadu'n gryf ar leoliad twf ar draws y Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal, mae Cymru'r Dyfodol yn nodi y dylid lleoli prif ddatblygiadau manwerthu a'r sector cyhoeddus yn y prif ganolfannau fel ystyriaeth gyntaf. O ganlyniad, mae'n bwysig y caiff swyddogaethau manwerthu'r prif ganolfannau eu hamddiffyn rhag datblygu amhriodol, wrth ganiatáu hyblygrwydd er mwyn i'r canolfannau barhau i ffynnu.

Polisi PS20: Hierarchaeth Manwerthu

PS20 Mae'r hierarchaeth ganlynol wedi'i nodi ar gyfer canolfannau manwerthu yn y Fwrdeistref Sirol. Dylai cynigion ar gyfer manwerthu a datblygiadau sylweddol yn y sector cyhoeddus ddefnyddio'r hierarchaeth fanwerthu fel sail i ymagwedd ddilyniannol at leoli datblygiadau:

Prif Ganolfannau

  • Bargoed
  • Coed-duon
  • Ystrad Mynach
  • Risca/Pont-y-meister
  • Caerffili

Canolfannau Lleol

  • Rhymni
  • Nelson
  • Trecelyn
  • Bedwas

7.37 Mae'n ofynnol bod y Cyngor yn ystyried anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr wrth baratoi cynlluniau datblygu. Mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Asesiad o Lety i Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) a fydd yn llywio'r broses honno. Yn anffodus, nid oedd hi'n bosib cwblhau GTAA y Cyngor mewn pryd ar gyfer yr ymgynghoriad Cyn-Adneuo, felly mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys ymrwymiad i ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr drwy'r GTAA.

Polisi PS21: Llety i Sipsiwn a Theithwyr

PS18 Bydd tir yn cael ei neilltuo i ddiwallu anghenion heb eu diwallu Sipsiwn a Theithwyr yn y dyfodol os caiff angen ei nodi yn yr Asesiad o Lety i Sipsiwn a Theithwyr a ddiweddarwyd.

7.38 Mae'n ofyniad statudol i'r Cyngor gadw banc tir 10 mlynedd o gronfeydd o fwynau a ganiateir drwy gydol cyfnod y cynllun. I wneud hyn, bydd y Cyngor yn amddiffyn y cronfeydd wrth gefn presennol rhag datblygiad amhriodol ac yn sicrhau y caniatawyd cronfeydd digonol i ddarparu cronfeydd gwerth 25 mlynedd a fyddai'n sicrhau tic banc 10 mlynedd ar ddiwedd cyfnod y cynllun. Yn ogystal â hyn, bydd y Cyngor yn annog defnyddio ac ailddefnyddio gro eilaidd cymaint â phosib.

Polisi PS22: Mwynau

PS20 Bydd y Cyngor yn cyfrannu at alw rhanbarthol am gyflenwad parhaus o fwynau drwy:

A Ddiogelu adnoddau y gwyddys amdanynt o lo, tywod a cherrig mân a cherrig caled

B Cynnal banc tir 10 mlynedd neu fwy o gronfeydd cerrig mân a ganiateir drwy gydol cyfnod y cynllun

C Annog y defnydd effeithiol a phriodol o fwynau o safon a chynyddu'r potensial i ddefnyddio cerrig mân eilaidd ac wedi'u hailgylchu fel opsiwn amgen i adnoddau o dir cynradd.

7.39 Gwneir darpariaeth ar gyfer isadeiledd gwastraff dŵr ar lefel isranbarthol ac, felly, nid yw'r Strategaeth a Ffefrir yn gwneud darpariaeth ar gyfer isadeiledd gwastraff. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys polisïau trosfwaol sy'n hwyluso darpariaeth elfennau o'r hierarchaeth.

Polisi PS23: Rheoli Gwastraff Cynaliadwy

PS21 Er mwyn hwyluso rheolaeth gynaliadwy o wastraff, bydd y Cynllun yn:

A Sicrhau bod y cynigion yn cydymffurfio ag egwyddorion yr hierarchaeth gwastraff, gan gefnogi'r rhai hynny sy'n symud gwastraff i fyny'r hierarchaeth;

B Cefnogi rhwydwaith integredig a digonol o osodiadau rheoli gwastraff sy'n ystyried y cysyniad gosodiad priodol agosaf ac egwyddorion hunangynhaliaeth lle bo angen;

C Nodi safleoedd diwydiannol Dosbarth B2 neilltuedig ac a amddiffynnir sy'n briodol ar gyfer cynnwys cyfleusterau trin a rheoli gwastraff mewnol, gan ddibynnu ar ystyriaethau cynlluniau manwl;

D Cefnogi'r economi gylchol drwy annog lleihau cynhyrchiant gwastraff a thrwy ddefnyddio deunyddiau sy'n cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu wrth gynllunio, adeiladu a chwalu datblygiadau; a

E Sicrhau y gwneir darpariaeth ar gyfer rheoli, trefnu, storio a chasglu gwastraff yn yr holl ddatblygiadau.

7.40 Mae Diagram Allweddol y Strategaeth a Ffefrir isod. Dylid nodi bod y Diagram Allweddol yn gynllun awgrymedig a'i fod yn dangos dyraniadau penodol wedi'u hamlinellu yn y Strategaeth a Ffefrir yng nghyd-destun y Fwrdeistref Sirol. Nid yw'r diagram ar raddfa benodol nac yn seiliedig ar Sylfaen Map Arolwg Ordnans. O ganlyniad, mae'r dyraniadau a nodwyd arno yn awgrymedig ac nid ydynt yn cyfeirio at safleoedd na llwybrau penodol.

Figure 5 - Diagram Allweddol Strategaeth a Ffefrir

Diagram Allweddol Strategaeth a Ffefrir

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig