Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)

Daeth i ben ar 30 Tachwedd 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

4 Y Weledigaeth, Nodau ac Amcanion Strategol

Y Weledigaeth

4.1 Mae gweledigaeth o sut olwg fydd ar y Fwrdeistref Sirol erbyn diwedd cyfnod y cynllun yn bwysig er mwyn deall yr hyn sydd angen newid dros gyfnod y cynllun. Bydd y newidiadau hyn yn llywio fframwaith polisi a fydd yn sbardun ac yn newid uniongyrchol i wireddu'r weledigaeth.

4.2 Mae Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion ar gyfer yr 2RLDP wedi bod yn destun trafodaeth ac ystyriaeth drwy'r broses Ymgysylltiad CDLl drwy'r gyfres seminarau. Mae'r trafodaethau a'r ystyriaethau hyn wedi'u hamlinellu'n fanwl yn Nogfen Sylfaen Tystiolaeth "Ymgysylltu Cyd-adneuo" y Cyngor. Ystyriodd Grŵp Ffocws y CDLl y trafodaethau o'r broses ymgysylltu gan argymmell y dylai'r Cyngor fabwysiadu'r weledigaeth ganlynol ar gyfer yr 2RLDP.

Gweledigaeth ar gyfer yr 2RLDP

Bydd Strategaeth Ddatblygu Bwrdeistref Sirol Caerffili yn manteisio ar ein lleoliad strategol wrth wraidd Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Bydd yn cyflawni datblygu cynaliadwy a fydd yn gwella lles y bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn chwarae yn y Fwrdeistref Sirol ac yn ymweld â hi. Erbyn diwedd cyfnod y cynllun, bydd y strategaeth wedi gwneud y canlynol:

  • Mynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol sydd wedi codi o Covid-19, Brexit a newidiadau mewn patrymau cyflogaeth a manwerthu, wedi hwyluso nifer uwch o swyddi, wedi cynnal twf economaidd, wedi manteisio ar gryfderau gweithgynhyrchu presennol a'r economi sylfaen ac wedi creu canolau trefi bywiog â mathau amrywiol o ddefnydd.
  • Wedi datblygu a gwella'r isadeiledd glas a gwyrdd ar draws y Fwrdeistref Sirol drwy ei gynnwys wrth gynllunio datblygu a hyrwyddo amddiffyniad a gwelliant ardaloedd pwysig o ran cadwraeth natur ac iechyd a lles preswylwyr.
  • Myned i'r afael â'r argyfwng tai drwy ddarparu tai fforddiadwy a marchnad, datblygu amrywiaeth eang a dewis o dai ac wedi sicrhau bod gan yr holl breswylwyr fynediad i gartref o safon yn y lleoliadau iawn,
  • Wedi'i adeiladu ar gymeriad amrywiol ac unigryw trefi a phentrefi'r Fwrdeistref Sirol, wedi rhoi egwyddorion creu lleoedd wrth wraidd y dyluniad ac wedi annog cyfoeth diwylliannol ac amrywiaeth.
  • Gwella rhwydwaith strategol adloniant, hamdden, addysg a chyfleusterau cymunedol, cymunedau wedi'u cryfhau a chreu ansawdd bywyd gwell i bawb.

Bydd y rhain i gyd yn seiliedig ar agweddau gwyrddach sy'n cynnwys:

  • Defnydd cynyddol o gludiant cyhoeddus cynaliadwy a cherbydau trydanol, gan gynnwys isadeiledd gwefru.
  • Hygyrchedd cynyddol drwy welliannau i'r rhwydwaith teithio llesol,
  • Cynhyrchiant a defnydd cynyddol o ynni adnewyddadwy yn y Fwrdeistref Sirol.

Nodau ac Amcanion Allweddol

4.3 Er mwyn cyflawni'r Weledigaeth drwy'r 2RLDP, mae cyfres o nodau, a nododd meysydd eang ar gyfer gweithredu ac Amcanion, a nododd camau gweithredu manwl i gyflawni elfennau o'r Weledigaeth eang, wedi'i hamlinellu. Bydd Nodau ac Amcanion yn llywio datblygiad polisi manwl y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r 2RLDP Adnau.

Y Nodau Allweddol

4.4 Mae'r nodau allweddol i'r 2RLDP yn cynnwys:

  1. Mynd i'r afael ag achosion effeithiau newid yr hinsawdd, a'u lliniaru a datblygu gwydnwch yn eu herbyn.
  2. Atgyfnerthu'r holl ddatblygiad gydag egwyddorion Creu Lleoedd, Datblygu Cynaliadwy a dylunio da.
  3. Sicrhau cyfleoedd cyfartal a mynediad i bawb i'r holl gartref, swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau arfaethedig a phresennol yn y Fwrdeistref Sirol.
  4. Gwella bywiogrwydd, amrywiaeth a chymeriad cymunedau lleol drwy ddefnyddio egwyddorion creu lleoedd cadarn ar gyfer iechyd a lles preswylwyr ac ennyn cydlyniant cymdeithasol.
  5. Amddiffyn a gwella isadeiledd glas a gwyrdd y Fwrdeistref Sirol wrth gydbwyso'r angen am ddatblygu drwy gydbwyso effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i gyflawni datblygiad cynaliadwy.
  6. Hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Caerffili fel ardal gyda hunaniaeth unigryw ac fel ardal yn ei rhinwedd ei hun ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, wrth weithio ar y cyd er budd y rhanbarth.
  7. Sefydlu strwythur economaidd a phoblogaeth gynaliadwy a fydd yn cefnogi ein cymunedau a'n heconomi.
  8. Mynd i'r afael â heriau economaidd sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol drwy ddarparu tir a leolwyd yn gynaliadwy i gynyddu nifer y swyddi, hyrwyddo'r economi gylchol, ennyn twf economaidd yn y Fwrdeistref Sirol, wrth hyrwyddo canolau trefi amrywiol gydag amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a darparu hierarchaeth gwastraff.
  9. Hyrwyddo datblygiad tai fforddiadwy a marchnad, mewn lleoliadau cynaliadwy, i ddarparu amrywiaeth a dewis o dai a fydd yn rhoi cyfle i bawb gael cartref o safon yn y lle iawn.
  10. Cefnogi datblygiad ac ehangiad pellach Metro De-ddwyrain drwy nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd a'r isadeiledd trafnidiaeth presennol i hwyluso newid i gludiant cyhoeddus a cherbydau trydanol, wrth gynyddu'r potensial am deithio llesol ar gyfer teithiau lleol a hamdden a chynnal gwydnwch y rhwydwaith priffordd strategol.
  11. Cefnogi a hwyluso datblygiad cyfleusterau addysg fodern i uwchsgilio'r boblogaeth wedi'u teilwra i anghenion dyfodol y Fwrdeistref Sirol.
  12. Annog cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn gadarnhaol a defnyddio'r Fwrdeistref Sirol i gynorthwyo wrth leihau allyriadau a lliniaru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd.
  13. Hyrwyddo creu lleoedd o safon drwy ddatblygiadau sy'n seiliedig ar ddylunio da a sicrhau bod yr holl ddatblygiadau'n lleihau'r potensial am droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  14. Hyrwyddo amddiffyniad, adfywio a gwelliant ffabrig hanesyddol y Fwrdeistref Sirol er budd y diwylliant cyfoethog a'r amrywiaeth mae'n dod â nhw i gymunedau'r Fwrdeistref Sirol.
  15. Cyfrannu at wella iechyd cyhoeddus drwy hwyluso datblygiadau defnyddio tir sy'n cyfrannu at ffyrdd iach o fyw a lles meddwl.

Yr Amcanion Allweddol

4.5 Mae'r amcanion allweddol i'r 2RLDP yn cynnwys:

  1. Darparu ar gyfer lefelau cynaliadwy o dwf poblogaeth sy'n cyd-fynd â statws y Fwrdeistref Sirol yn yr Ardal Dwf Genedlaethol (G, H, I).
  2. Rheoli, cadw a gwella ansawdd lleoedd agored a thirweddau a'u diogelu rhag ffurfiau datblygu amhriodol (D, M).
  3. Darparu dyletswydd bioamrywiaeth drwy nodi isadeiledd glas a gwyrdd presennol a newydd ac asedau bioamrywiaeth, a'u diogelu a'u gwella (E).
  4. Sicrhau bod effaith amghylcheddol yr holl ddatblygiadau newydd yn cael ei leihau (E).
  5. Sicrhau bod cynigion datblygu yn mynd i'r afael ag addasu yn sgil newid yn yr hinsawdd a mesurau lliniaru'n llawn, yn unol â'r hierarchaeth ynni (A, B, E).
  6. Darparu targedau dim carbon Llywodraeth Cymru a chynorthwyo argyfwng hinsawdd y Cyngor drwy hyrwyddo datblygiad y genhadaeth ynni adnewyddadwy mewn lleoliadau priodol (A, L).
  7. Sicrhau bod yr holl ddatblygiadau wedi'u hategu gan egwyddorion yr economi leol, yn atal gwastraff drwy ystyried dewisiadau dylunio a thrin safleoedd a chynnig darpariaeth ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff sy'n cyfleu trefn blaenoriaethau'r hierarchaeth gwastraff (H).
  8. Annog ail-ddefnyddio a/neu ail-feddiannu tir llwyd priodol a thir wedi'i halogi ac atal halogi ac adfeilio pellach (E).
  9. Sicrhau bod lleoliad datblygu newydd yn hwyluso mynediad i gludiant cynaliadwy a theithio llesol a bod y datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â rôl a swyddogaeth aneddiadau yn unol â'r hierarchaeth anheddiad (J).
  10. Sicrhau bod amrywiaeth ddigonol a phriodol o safleoedd tai ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy i fodloni gofynion tai holl rannau'r boblogaeth (I).
  11. Sicrhau bod yr holl ddatblygu yn bodloni gofynion creu lleoedd da, dylunio a chynaliadwyedd fel a amlinellwyd yn y Siarter Creu Lleoedd, gan greu lleoedd gydag ymdeimlad cryf o gymuned, dylunio o safon, cynaliadwyedd, gweithgarwch, cydraddoldeb a chreu ymdeimlad o le (A, M).
  12. Rheoli, amddiffyn a gwella maint a safon yr amgylchedd dŵr a lleihau'r defnydd o ddŵr (D, E).
  13. Lleihau effaith llifogydd drwy sicrhau bod datblygu sy'n agored iawn yn cael ei symud oddi wrth ardaloedd â risg ganolog ac uchel o lifogydd a gwreiddio egwyddorion SuDS cadarn mewn cynlluniau datblygu o'r dechrau. (E)
  14. Lleihau'r angen i deithio drwy hyrwyddo cyfuniad o ddyraniadau defnydd o dir mewn lleoliadau cynaliadwy a darparu isadeiledd digidol gwell (E, J).
  15. Hyrwyddo mynediad i bawb drwy flaenoriaethu cerdded a beicio (teithio llesol), a chludiant cyhoeddus ac yn olaf, cerbydau modur, a thrwy hynny, lleihau llygredd aer a'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat (J).
  16. Mwyafu safle'r Fwrdeistref Sirol yn yr Ardal Dwf Genedlaethol, gan gefnogi adfywio cydlynus a buddsoddiad i wella lles, cynyddu ffyniant a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac atgyfnerthu rolau strategol Caerdydd a Chasnewydd (F).
  17. Darparu ac amddiffyn portffolio amrywiol o dir cyflogaeth ar gyfer amrywiaeth o fathau o ddefnydd yn y lleoliadau mwyaf priodol, gan sicrhau bod swyddi a thai'n cyd-fynd â gwasanaethau ac isadeiledd trafnidiaeth cynaliadwy (H, K).
  18. Gwella'r economi ymwelwyr yn sylweddol drwy wella atyniadau twristaidd gydol y flwyddyn a llety i ymwelwyr, a datblygu rhai newydd ac amrywiol, a mwyafu'r manteision cysylltiedig mae'r gwelliannau'n eu darparu (H).
  19. Hyrwyddo system cludiant cyhoeddus integredig a chynaliadwy (J).
  20. Sicrhau darpariaeth isadeiledd gwefru cerbydau isel iawn o ran allyriadau (J).
  21. Darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau cymunedol, â lleoliadau priodol, sy'n hygyrch iawn, sy'n gwella iechyd a lles ac sy'n diwallu anghenion y Fwrdeistref Sirol (B, C, D, O).
  22. Hyrwyddo, cynnal a gwella canolfannau manwerthu a masnachol y lleoliadau mwyaf cynaliadwy lle gall pobl fyw, gweithio, siopa, cymdeithasu a chynnal busnes, yn unol â'r egwyddor canol tref yn gyntaf a'r hierarchaeth canolau sefydledig yn y cynllun, a sicrhau mynediad iddynt drwy foddau cynaliadwy o gludiant (H).
  23. Amddiffyn, cadw a chynyddu gwerth yr Amgylchedd Hanesyddol drwy hyrwyddo treftadaeth fel ased ac annog ailddefnyddio addasedig, cynaliadwyedd, creu lleoedd ac adfywio (B, N).
  24. Hyrwyddo Amgylchedd Hanesyddol drwy leoedd hanesyddol sy'n cyfrannu at hanes Bwrdeistref Sirol Caerffili, wrth hyrwyddo a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd hanesyddol, drwy gymunedau lleol a chynnwys ymwelwyr (B, N, N).
  25. Sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn cael ei gwasanaethu'n dda gan le agored cyhoeddus hygyrch a mannau gwyrdd naturiol a hygyrch, sy'n hybu ffordd o fyw iach ac actif ac sy'n gwella lles yn gyffredinol (B, D, E, M, O).

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig