Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)

Daeth i ben ar 30 Tachwedd 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

1 Rhagarweiniad

1.1 Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru "adolygu'n barhaus materion y disgwylir iddynt effeithio ar ddatblygiad eu hardal neu gynllunio ei datblygiad". Gwneir hyn drwy gynlluniau datblygu a baratoir gan bob awdurdod cynllunio lleol ar gyfer eu hardal nhw. Cynllun Datblygu Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2021 (y CDLl a fabwysiadwyd) yw'r cynllun datblygu presennol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ac er bod diwedd ei gyfnod cynllunio eisoes wedi mynd heibio, bydd yn parhau mewn grym nes y bydd CDLl newydd yn ei ddisodli.

1.2 Dechreuodd y Cyngor weithio ar Ail Gynllun Datblygu Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili Newydd hyd at 2035 (y cyfeirir ato o hyn allan fel 2RLDP) ym mis Hydref 2020. Mae'r cefndir sydd wedi arwain at y penderfyniad i ddechrau adolygu'r CDLl a fabwysiadwyd wedi'i amlinellu yn Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2021 (yr Adroddiad Adolygu). Bydd yr 2RLDP yn cynnwys y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2035. Pan gaiff ei fabwysiadu, yr 2RLDP fydd cynllun defnyddio tir statudol y Cyngor a bydd yn amlinellu strategaeth defnyddio tir y Cyngor i gyflawni datblygiad cynaliadwy a datblygu cymunedau cryf a gwydn sy'n gwella llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

1.3 Bydd angen i'r 2RLDP wneud y canlynol:

  • Cyflawni datblygiad cynaliadwy yn seiliedig ar egwyddorion creu lleoedd cadarn;
  • Datblygu polisïau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ymhellach, a chyfrannu ato a lunnir gan Lywodraeth Cymru;
  • Cyfleu uchelgeisiau lleol ar ran y Fwrdeistref Sirol, yn seiliedig ar weledigaeth sydd wedi'i lywio gan randdeiliaid allweddol;
  • Mynegi yn nhermau defnyddio tir amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf Llesiant) a blaenoriaethau Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent drwy ei Gynllun Llesiant Gwent sydd wrthi'n cael ei ddatblygu;
  • Darparu sail am benderfyniadau rheoli datblygu sy'n rhesymegol a chyson;
  • Llywio twf a newid, wrth ddiogelu amrywiaeth, cymeriad ac amgylcheddau sensitif lleol; a
  • Dangos pam, sut a ble y bydd newid dros gyfnod y cynllun.

1.4 Felly, agwedd allweddol ar yr 2RLDP fydd nodi natur, graddfa a dosraniad gofodol y newid sy'n ofynnol er mwyn diwallu anghenion y Fwrdeistref Sirol am gyfnod y cynllun.

1.5 Mae'r 2RLDP yn cael ei baratoi yn unol â'r Cytundeb Cyflawni (CC) y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru ar 17 Mehefin 2021, sy'n amlinellu'r amserlen ar gyfer paratoi'r 2RLDP a'r ymagwedd at ymgysylltu ac ymgynghori â'r gymuned drwy gydol y broses paratoi cynllun. Mae Ffigur 1 yn amlinellu trosolwg eang o'r broses baratoi ar gyfer yr 2RLDP.

Figure 1 - Proses Baratoi'r Ail CDLl Newydd

Proses Baratoi'r Ail CDLl Newydd

Strwythur Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2035: Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)

1.6 Mae'r Strategaeth a Ffefrir wedi'i hamlinellu yn adrannau 9:

Adran 1: Rhagarweiniad

Mae hon yn cynnig crynodeb o'r broses ar gyfer paratoi'r 2RLDP, y cam a gyrhaeddwyd a'r Strategaeth a Ffefrir.

Adran 2: Cyd-destun Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol

Mae hon yn cynnig cefndir deddfwriaethol a pholisi y mae'r Strategaeth a Ffefrir wedi'i pharatoi yn unol ag ef.

Adran 3: Materion Defnyddio Tir Allweddol

Mae hon yn darparu crynodeb o'r materion defnyddio tir a chysylltiedig allweddol y bydd yn rhaid i'r 2RLDP fynd i'r afael â nhw.

Adran 4: Y Weledigaeth Strategol

Mae hon yn amlinellu Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion ar gyfer yr 2RDLP.

Adran 5: Opsiynau Twf Strategol

Mae hon yn amlinellu'r boblogaeth a'r opsiynau tai a chyflogaeth sy'n cael eu hystyried ar gyfer yr 2RLDP, gan nodi lefel y twf i'w ystyried yn yr 2RLDP.

Adran 6: Hierarchaeth Anheddiad Cynaliadwy

Mae'r rhan hon yn amlinellu'r ymagwedd at ddosraniad gofodol y twf arfaethedig wedi'i ystyried ar sail cynaliadwyedd datblygu mewn perthynas ag aneddiadau ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.

Adran 7: Y Strategaeth a Ffefrir

Mae hon yn amlinellu'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer yr 2RLDP a'r polisïau strategol a fydd yn cyflawni'r strategaeth.

Adran 8: Y Camau Nesaf

Mae hon yn amlinellu'r hyn a fydd yn digwydd wedi cwblhau'r Ymgynghoriad Cyn-Adneuo ar y Ddogfen Strategaeth a Ffefrir.

Adran 9: Atodiadau

Mae hon yn amlinellu cyfres o atodiadau a fydd yn darparu gwybodaeth i gefnogi'r Strategaeth a Ffefrir.

Beth yw'r Strategaeth a Ffefrir?

1.7 Mae Rheoliad 15 Rheoliadau Cynllunio Tref a Gwlad (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2015 (fel a ddiwygiwyd) (Rheoliadau CDLl) yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi ei gynigion cyn-adneuo (Strategaeth a Ffefrir) i'w cyhoedd eu harchwilio ac ymgynghori â nhw cyn gwneud penderfyniad terfynol ar gynnwys ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) i'w adneuo.

1.8 Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu Cynllun Cyn-adneuo'r Cyngor ar gyfer rheoli newid ar draws y Fwrdeistref Sirol hyd at 2035. Mae'n cynnig cyd-destun strategol ar gyfer paratoi polisïau, gweithdrefnau a dyraniadau defnyddio tir mwy manwl a fydd yn cynorthwyo wrth gyflawni datblygu mwy cynaliadwy a meithrin cymunedau mwy gwydn. I grynhoi, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu'r canlynol:

  • Materion defnyddio tir allweddol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol;
  • Y Weledigaeth, y Nodau a'r Amcanion sy'n ymateb i'r materion, heriau a chyfleoedd allweddol;
  • Y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer yr 2RLDP, gan gynnwys graddfa twf poblogaeth y dyfodol, tai a swyddi a'r dosraniad gofodol eang ar gyfer twf;
  • Fframwaith polisi strategol a fydd yn cyflawni/gweithredu'r strategaeth ac yn llywio camau dilynol gwaith paratoi'r 2RLDP.

1.9 Rhaid nodi bod y Strategaeth a Ffefrir yn nodi lefel dosraniad gofodol eang y twf, ond nid yw'n nodi unrhyw ddyraniadau/dynodiadau sy'n benodol i safleoedd ar y cam hwn. Caiff hyn ei wneud fel rhan o'r broses o baratoi'r Cynllun Adneuo pan fydd cytundeb ar y Strategaeth a Ffefrir. Dim ond safleoedd sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth a Ffefrir fydd yn cael eu hystyried i'w cynnwys yn y Cynllun Adneuo. O ganlyniad, NID yw'r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys:

  • Safleoedd a neilltuwyd, oni bai y cynigir nodi unrhyw safleoedd strategol, sy'n safleoedd o bwys a graddfa o'r fath y byddant yn hanfodol er mwyn cyflwyno'r strategaeth yn ei chyfanrwydd;
  • Dynodiadau a ffiniau anheddiadau manwl;
  • Polisïau rheoli datblygiad manwl i reoli datblygiad;
  • Gwerthusiadau manwl o'r Safleoedd Ymgeisiol.

1.10 Mae'r Strategaeth a Ffefrir wedi cael ei llywio gan gyfres o seminarau ymgynghori sydd wedi rhoi cyfle i randdeiliaid allweddol ac aelodau etholedig roi mewnbwn. Mae Ffigur 2 yn amlinellu'r broses gyffredinol a gynhaliwyd wrth baratoi'r Strategaeth a Ffefrir.

Figure 2 - Proses Baratoi'r Strategaeth a Ffefrir

Proses Baratoi'r Strategaeth a Ffefrir

1.11 Mae camau'r broses baratoi wedi'u crynhoi yn y Strategaeth a Ffefrir, ac mae'r Materion Allweddol wedi'u hystyried o dan Adran 3, y Weledigaeth a'r Amcanion yn Adran 4, y Strategaeth Ofodol yn Adran 5 a Pholisïau Strategol yn Adran 7.

1.12 Mae sawl dogfen dechnegol a gweithdrefnol sydd wedi cael eu paratoi sy'n cynnig sylfaen tystiolaeth sydd wedi cael ei llywio gan y Strategaeth a Ffefrir. Mae rhestr o'r dogfennau hyn, ynghyd â chrynodeb o'r hyn maent yn ei gynnwys a'u rôl yn y broses wedi'i hamlinellu yn Atodiad 2 y ddogfen hon.

Yr Ymgynghoriad

1.13 Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn destun cyfnod ymgynghori statudol 6 wythnos lle gall unrhyw un gyflwyno sylwadau arni drwy gyflwyno eu sylwadau'n ysgrifenedig i'r Cyngor yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol.

1.14 Cyhoeddwyd y Strategaeth a Ffefrir hon yn ffurfiol ar gyfer sylwadau ar 19 Hydref 2022 a bydd y cyfnod ymgynghori yn cau ar 30 Tachwedd 2022 . Rhaid cyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a'i dogfennau cefnogi i'r Cyngor erbyn y dyddiad cau. Dylid nodi ni chaiff unrhyw sylwadau a dderbynnir wedi'r dyddiad cau eu derbyn na'u hystyried.

1.15 Mae'r Strategaeth a Ffefrir a'i dogfennau cefnogi ar gael i'w harchwilio ar wefannau'r Cyngor, ac mae copïau o'r Strategaeth a Ffefrir wedi cael eu rhoi ym mhob un o'r llyfrgelloedd ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.

1.16 Gellir cyflwyno sylwadau am y Strategaeth a Ffefrir drwy wefan y Cyngor, drwy e-bost i'r mewnflwch CDLl yn ldp@caerphilly.gov.uk, neu drwy lythyr i Gynllunio Strategol, Tŷ Tredomen, Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7WF.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig