Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)
5 Twf Strategol ac Opsiynau Strategaeth
Poblogaeth
5.1 Rhan allweddol o'r strategaeth a ffefrir yw ystyried lefel y boblogaeth y bydd y Fwrdeistref Sirol yn gallu ei chynnal ar ddiwedd cyfnod y cynllun. Bydd y gwahaniaeth rhwng y boblogaeth bresennol a'r boblogaeth ar ddiwedd cyfnod y cynllun yn darparu sail ar gyfer nodi nifer yr anheddau y bydd angen eu darparu, nifer y swyddi sy'n debygol o fod yn angenrheidiol, yr isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol y bydd eu hangen i ddiwallu anghenion yr holl breswylwyr.
5.2 Er mwyn ystyried goblygiadau'r newidiadau nid yn unig o ran lefelau'r boblogaeth, ond hefyd o ran strwythur y boblogaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, mae nifer o opsiynau twf amgen wedi cael eu hasesu. Mae newid poblogaeth yn cynnwys dau ffactor, sef newid naturiol (y gwahaniaeth rhwng niferoedd y genedigaethau a'r marwolaethau mewn blwyddyn) a chyfraddau mudo (y gwahaniaeth rhwng y bobl hynny sy'n symud i'r Fwrdeistref Sirol a'r bobl hynny sy'n symud allan). Mae opsiynau ar gyfer newid yn y boblogaeth y cael eu rhagweld gan ddefnyddio gwybodaeth a newidiwyd neu dybiaethau mewn perthynas ag un neu'r ddau newid naturiol a chyfraddau mudo.
5.3 Yn gyffredinol, ystyriwyd 11 o opsiynau poblogaeth ar gyfer strategaeth yr 2RLDP, 3 yn seiliedig ar ragolygon poblogaeth Llywodraeth Cymru 2018, 4 yn seiliedig ar dybiaethau mudo, 2 yn seiliedig ar gyfraddau adeiladau tai newydd , 1 yn seiliedig ar y boblogaeth economaidd ac 1 yn seiliedig ar gyflogaeth. Mae crynodeb o'r opsiynau a'u hystyriaeth wedi'i amlinellu yn Nogfen Sail Tystiolaeth y Cyngor: "Opsiynau Twf Poblogaeth a Thai".
Materion allweddol wrth ystyried Rhagolygon Poblogaeth a Thai
5.4 Mae Canllaw'r CDLl a'r PCC yn cynghori y dylid ystyried Rhagolygon diweddaraf gan Lywodraeth Cymru'n gyntaf yn y broses hon. Ar gyfer y broses hon, mae'r Cyngor wedi ystyried Prif Ragolwg Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2018 (Prif Ragolwg).
5.5 Mae newid yn y boblogaeth yn deillio o'r gyfradd eni, y gyfradd farwolaeth a lefelau mewnfudo yn y Fwrdeistref Sirol. Mae Prif Ragolwg Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2018 yn rhagweld, am y tro cyntaf, nifer uwch o farwolaethau na genedigaethau, sy'n arwain at newid naturiol negyddol, h.y. colli poblogaeth. Nid yw hyn wedi digwydd o'r blaen yn hanes y Fwrdeistref Sirol, gyda'r holl flynyddoedd blaenorol yn profi newid naturiol positif sy'n cyfrannu at dwf poblogaeth. Mae newid naturiol negyddol yn golygu y byddai'r Fwrdeistref Sirol yn lleihau o ran poblogaeth os nad oedd mudo net.
5.6 Er gwaethaf y newid naturiol negyddol, mae'r Prif Ragolwg yn nodi cynnydd mewn poblogaeth o ganlyniad mudo dros gyfnod y cynllun (2020 i 2035) o ychydig dros 1,800 o bobl, gan gynrychioli cynnydd o 1%. Er gwaethaf y cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol, mae dadansoddiad o strwythur y boblogaeth ar ddechrau a diwedd cyfnod y cynllun yn nodi y byddai'r boblogaeth economaidd (pobl o oedran gweithio) y lleihau gan bron i 2,900 o bobl, ac mae'r gymhareb hefyd yn nodi lleihau yn nifer y plant (0-15) dros gyfnod y cynllun o tua 2,700 o blant.
5.7 Mae'r golled poblogaeth economaidd a'r boblogaeth sy'n oedran plant yn arwain at oblygiadau sylweddol iawn ar gyfer economi'r Fwrdeistref Sirol, gyda gweithlu sy'n lleihau a llai o bobl ifanc yn cyrraedd oedran cyflogaeth. Golyga hyn y gallai'r Fwrdeistref Sirol fod yn cynllunio'n rhwydd am gyfyngiad economaidd yn hytrach na thwf. Gallai'r golled poblogaeth yn y grwpiau oedran hyn hefyd gael goblygiadau sylweddol ar gyfer gwasanaethau ac isadeiledd, yn enwedig ysgolion, gyda nifer o blant oedran ysgol yn lleihau'n sylweddol.
5.8 Lleolir Bwrdeistref Sirol Caerffili ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd sy'n ceisio cynyddu nifer y swyddi yn y rhanbarth gan 25,000 drwy ei Fargen Ddinesig. Yn ogystal, mae hefyd wedi'i leoli mewn Ardal Dwf Genedlaethol a nodwyd yng Nghymru'r Dyfodol, sy'n ceisio lefel o dwf gymesur i'r hyn mae'n rhaid darparu ar ei chyfer yn y maes hwn. Rhan hanfodol o unrhyw strategaeth sy'n ceisio bodloni'r gofynion hyn yw poblogaeth sy'n dangos twf, gyda thwf yn y boblogaeth economaidd yn benodol er mwyn cyrraedd targedau swyddi. O ganlyniad, bydd strategaeth dim ond yn bodloni gofynion Cymru'r Dyfodol a dyhead Prifddinas-ranbarth Caerdydd os yw'n nodi lefel briodol o dwf mewn poblogaeth (gan gynwys poblogaeth economaidd).
Rhagolygon Aelwydydd
5.9 Mae rhagolygon aelwydydd yn rhoi brasamcangyfrifon o nifer yr aelwydydd yn y dyfodol a nifer y bobl sy'n byw ynddynt. Maent yn seiliedig ar ragolygon poblogaethau ac amrywiaeth o dybiaethau am gyfansoddiad a nodweddion aelwyd. Caiff nifer yr aelwydydd ei throsi'n nifer anheddau drwy ddefnyddio cyfradd gwacter, i ganiatáu eiddo gwag a throsiant yn y farchnad.
5.10 Mae hyn wedi'i gynnal ar gyfer yr 11 rhagolwg ac opsiynau tai a nodwyd. Mae'r rhagolygon llawn wedi'u hamlinellu yn y ddogfen ac Opsiynau Twf Poblogaeth a Thai.
Asesiad o Senarios Twf Amgen
5.11 Mae cyfanswm o 11 opsiwn twf wedi cael eu hystyried ar gyfer yr 2RLDP. Mae crynodebau pob un o'r canlyniadau o bob un o'r opsiynau wedi'u hamlinellu yn Nhabl 1:
Table 1: Crynodeb o'r canlyniadau ar gyfer Opsiynau Twf a ystyriwyd ar gyfer yr 2RLDP.
Senarios (gan gynnwys addasiadau Cyfradd Aelodaeth ac wedi'u haddasu ar gyfer yr amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf) |
Newid Poblogaeth 2020-2035 |
% Newid Poblogaeth 2020-2035 |
Newid Aelwyd (HH) 2020-2035 |
% Newid Aelwyd (HH) 2020-2035 |
Cyfanswm yr Anheddau |
Anheddau'r flwyddyn |
Newid mewn poblogaeth oedran gweithio |
|
A |
Prif Ragolwg LlC yn seiliedig ar 2018 |
1,881 |
1.0 |
2,862 |
3.7 |
2,966 |
198 |
-2,868 |
B |
Poblogaeth Uchel LlC yn seiliedig ar 2018 |
5,499 |
3.0 |
4,241 |
5.5 |
4,395 |
293 |
-1,842 |
C |
Poblogaeth Isel LlC yn seiliedig ar 2018 |
-3,313 |
-1.8 |
1,026 |
1.3 |
1,064 |
71 |
-3,938 |
D |
Mewnfudo Sero Net |
-2,789 |
-1.5 |
884 |
1.1 |
917 |
61 |
-6,413 |
E |
Mewnfudo Cyfartalog Hir Dymor (19 o flynyddoedd) |
-1,002 |
-0.6 |
1,695 |
2.2 |
1,756 |
117 |
-5,380 |
F |
Mewnfudo Cyfartalog Hir Dymor (10 o flynyddoedd) |
-1,137 |
-0.6 |
1,636 |
2.1 |
1,696 |
113 |
-5,443 |
G |
Mewnfudo cyfartalog de-ddwyrain Cymru |
5,212 |
2.9 |
4,195 |
5.4 |
4,348 |
290 |
-756 |
H |
Parhad y CDLl a fabwysiadwyd |
15,058 |
8.3 |
8,323 |
10.8 |
8,622 |
575 |
7,668 |
I |
Cyfraddau adeiladu tai hir dymor |
7,990 |
4.4 |
5,399 |
7.0 |
5,595 |
373 |
1,944 |
J |
Twf Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn y boblogaeth oedran gweithio |
10,685 |
5.9 |
6,513 |
8.4 |
6,750 |
450 |
4,126 |
K |
Senario Rhagolwg Cyflogaeth Economaidd Rhydychen |
-8,805 |
-4.8% |
-2031 |
-2.6% |
0 |
0 |
-11,231 |
5.12 Mae'r disgwyliad sy'n codi o gynnwys Caerffili yn nynodiad Ardal Dwf Genedlaethol Cymru'r Dyfodol a dyhead economaidd Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn golygu bod unrhyw strategaeth arfaethedig ar gyfer yr 2RLDP angen sicrhau poblogaeth economaidd ddichonadwy a chynaliadwy ac yn dangos twf. O ganlyniad i hyn, dim ond pedwar o'r opsiynau sydd wedi cael eu hystyried ar gyfer strategaeth yr 2RLDP. Mae'r pedwar opsiwn fel a ganlyn:
- Opsiwn A – Prif Ragolwg LlC yn seiliedig ar 2018;
- Opsiwn F – Parhad y CDLl a fabwysiadwyd;
- Opsiwn Ff – Cyfraddau adeiladu tai hir dymor; ac
- Opsiwn G – Twf Poblogaeth Oedran Gweithio Prifddinas-ranbarth Caerdydd
5.13 Mae'r Opsiynau Twf wedi bod yn destun ymgynghori â'r gyfres seminar CDLl. O ganlyniad i'r gwaith hwn, argymhellodd y Grŵp Ffocws CDLl (y grŵp â chyfrifoldeb am wneud argymhellion i'r Cyngor mewn perthynas â materion 2RLDP) y dylid defnyddio senario Opsiwn G – Twf Poblogaeth Oedran Gweithio Prifddinas-ranbarth Caerdydd fel sail y cynllun sy'n dod i'r amlwg.
Gofynion Economaidd
5.14 O gofio bod yr Opsiwn Twf a ddewiswyd ar gyfer y cynllun sy'n dod i'r amlwg yn seiliedig ar uchelgeisiau Prifddinas-ranbarth Caerdydd ar gyfer twf economaidd, mae'n bwysig bod y cynllun yn gwneud darpariaeth i gynnal lefel ddigonol o dwf o safbwynt cyflogaeth. Comisiynodd y Cyngor ddwy astudiaeth, astudiaeth fwy na lleol sy'n ystyried y farchnad ranbarthol ac adolygiad o dir cyflogaeth lleol sy'n ystyried argaeledd safleoedd presennol a maint y tir newydd y byddai'n rhaid ei nodi drwy'r cynllun sy'n dod i'r amlwg. Mae'r dogfennau hyn wedi llywio'r gofynion tir cyflogaeth ar gyfer yr 2RLDP, gan ystyried Opsiwn Twf G. Mae'r astudiaethau'n nodi gofyniad am ddarpariaeth 39.6 hectar ychwanegol o dir cyflogaeth i'w neilltuo i fodloni'r gofynion cyflogaeth, er bod 4.9 hectar ychwanegol yn cael ei nodi i fynd i'r afael â diffyg tir sydd ar gael yn ne'r Fwrdeistref Sirol. O ganlyniad, nodwyd cyfanswm o 44.5 hectar i fodloni'r gofynion cyflogaeth cyffredinol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
Polisi PS1: Lefel Twf yr 2RLDP
SP1 Mae'r 2RLDP yn mabwysiadu lefelau twf a amlinellwyd yn Opsiwn G – senario Twf Poblogaeth Oedran Gweithio Prifddinas-ranbarth Caerdydd.
Bydd yr 2RLDP yn cynllunio am gynydd mewn poblogaeth o oddeutu 10,700 o bobl, gyda chynnydd yn y boblogaeth economaidd o oddeutu 4,100 o bobl.
Opsiynau Strategaeth
5.15 Wedi nodi'r lefel o dwf, y cam nesaf oedd ystyried sut y gellir dosrannu'r lefel o dwf yn briodol ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Mae cyfanswm o 6 opsiwn strategaeth amgen wedi cael eu hystyried fel rhan o'r broses, gan fyfyrio ar y problemau sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol a'r fframwaith polisi rhanbarthol. Mae'r ystyriaeth a'r asesiad o'r opsiynau strategaeth wedi'u hamlinellu yn y Ddogfen Sylfaen Tystiolaeth "Asesiad o Opsiynau Strategaeth". Y chwe opsiwn strategaeth a ystyriwyd oedd:
Opsiwn Strategaeth 1: Parhad o'r Strategaeth CDLl
5.16 Byddai hyn yn gweld parhad y strategaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr CDLl a fabwysiadwyd ar hyn o bryd. Mae'r strategaeth yn llywio datblygiad o fewn fframwaith strategol eang gan ategu egwyddorion datblygu strategol. Rhannwyd y Fwrdeistref Sirol yn dri maes strategol, pob un â'i bolisïau datblygu strategol eu hunain. Mae'r meysydd strategol hyn yn Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd (HoVRA), Coridor Cysylltiadau'r Gogledd (NCC) a'r Coridor Cysylltiadau'r De (SCC).
Opsiwn Strategaeth 2: Ffocws Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd
5.17 Mae'r strategaeth hon yn ceisio mwyafu cyfleoedd datblygu yn Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd i hyrwyddo twf economaidd, ehangu'r amrywiaeth a'u dewis o dai a mwyafu manteision buddsoddiad o bwys a gwelliant yn y Metro a'r A465.
Opsiwn Strategaeth 3: Safle Strategol Allweddol
5.18 Byddai'r opsiwn strategaeth hwn yn arwain at neilltuo safle strategol ym Maes-y-cwmwr i roi lle ar gyfer carfan sylweddol o ddatblygu tai newydd, ynghyd â datblygu ffordd mynediad a chysylltiad cludiant strategol gwell. Byddai'r datblygu newydd ychwanegol yn canolbwyntio'n bennaf ar ardaloedd Coed Duon Mwy ac Ystrad Mynach Mwy, ynghyd â Chymoedd Ebwy Is a Sirhywi, ar y safleoedd mwyaf priodol a chynaliadwy sydd wedi'u cysylltu'n dda â'r rhwydwaith rheilffyrdd a chyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus.
Opsiwn Strategaeth 4: Ffocws Buddsoddiad y Metro
5.19 Byddai'r opsiwn strategaeth hwn yn golygu neilltuo tir â'r nod o fwyafu'r manteision sy'n deillio o'r buddsoddiad sylweddol ym Metro De-ddwyrain Cymru, gan fwyafu cyfleoedd sy'n codi o ac o amgylch nodau cludiant cyhoeddus allweddol, gan gynnwys gorsafoedd rheilffyrdd ar hyd Llinellau Rhymni ac Ebwy a'r prif orsafoedd bysus yng Nghoed Duon a Nelson.
Opsiwn Strategaeth 5: Canol Tref yn Gyntaf
5.20 Byddai'r opsiwn strategaeth hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiadau newydd yn agos i brif drefni Caerffili, Ystrad Mynach, Coed Duon, Risca/Pont-y-meister a Bargoed a chanolfannau lleol Bedwas, Trecelyn, Nelson a Rhymni, ac agosrwydd un o'r canolfannau fydd y brif ystyriaeth wrth neilltuo safleoedd datblygu newydd.
Opsiwn Strategaeth 6: Ffocws Basn Caerffili
5.21 Nod y strategaeth hon yw mwyafu cyfleoedd datblygu yn y Coridor Cysylltiadau'r De i hyrwyddo twf economaidd a chynyddu manteision buddsoddiad sylweddol mewn adfywio tref Caerffili.
5.22 Roedd y chwe opsiwn strategaeth yn destun proses ymgynghori'r CDLl drwy'r gyfres o seminarau, lle trafodwyd yr opsiynau. Adroddwyd canlyniad y gwaith ymgysylltu wrth Grŵp Ffocws CDLl. Ystyriodd Grŵp Ffocws y CDLl ganlyniadau'r broses ymgysylltu gan argymmell y dylid defnyddio'r canlynol fel y strategaeth a ffefrir ar gyfer yr 2RLDP.