Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir Ddiwygiedig)

Yn dod i ben ar 27 Chwefror 2025 (42 diwrnod ar ôl)

8 Y Camau Nesaf Sylw

8.1 Yn dilyn yr ymgynghoriad a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y Strategaeth a Ffefrir, bydd y Cyngor yn terfynu'r 2RLDP ac yn ei roi ar Adneuo. Caiff adborth o ymgynghoriad y Strategaeth a Ffefrir Ddywygiedig ei fanylu yn Adroddiad yr Ymgynghoriad Cychwynnol ar yr Ail Ymgynghoriad Cyn-Adneuo. Rhaid i'r adroddiad ddod gydag Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig yr 2RLDP a dogfennau cefnogi eraill ar Adneuo, yn unol â Rheoliad 17 o Reoliadau'r CDLl. Caiff yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnoll ei adrodd wrth y Cyngor yn ystod gwanwyn/haf 2025. Yna, caiff y Cynllun Adneuo ei baratoi a'i ystyried gan y Cyngor cyn cyfnod ymgynghori ac ymgysylltu statudol chwe wythnos ar ddechrau 2026.

8.2 Yn unol â Rheoliad 22 o Reoliadau CDLl. Caiff y Cynllun Adneuo ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a fydd yn penodi Arolygydd annibynnol i archwilio'r 2RLDP. Gan ystyried y dystiolaeth a'r cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn ystod ymgynghoriad yr Adneuad, rhaid i'r Arolygydd benderfynu a yw'r 2RLDP yn cydymffurfio â'r 'profion cadernid' a amlinellwyd yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu.

8.3 Yn dilyn yr Archwiliad, bydd yr Arolygydd yn cyhoeddi adroddiad sy'n argymell unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r 2RLDP. Bydd adroddiad yr Arolygydd yn rhwymo, a bydd yn rhaid i'r Cyngor dderbyn y newidiadau a mabwysiadu'r 2RLDP fel y'i diwygiwyd. Pan gaiff ei fabwysiadu, bydd yr 2RLDP yn disodli'r CDLl a Fabwysiadwyd presennol.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig