Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir Ddiwygiedig)
4 Y Weledigaeth, Nodau ac Amcanion Strategol Sylw
Y Weledigaeth Sylw
4.1 Mae gweledigaeth o sut olwg fydd ar y Fwrdeistref Sirol erbyn diwedd cyfnod y cynllun yn bwysig er mwyn deall yr hyn sydd angen newid dros gyfnod y cynllun. Bydd y newidiadau hyn yn llywio fframwaith y polisi a fydd yn sbardun ac yn newid uniongyrchol i wireddu'r weledigaeth.
4.2 Mae Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion ar gyfer yr 2RLDP wedi bod yn destun trafodaeth ac ystyriaeth drwy'r broses Ymgysylltiad CDLl drwy'r gyfres seminarau. Mae'r trafodaethau a'r ystyriaethau hyn wedi'u hamlinellu'n fanwl yn Nogfen Sylfaen Tystiolaeth "Ymgysylltu Cyd-adneuo" y Cyngor. Ystyriodd Grŵp Ffocws y CDLl y trafodaethau o'r broses ymgysylltu gan argymmell y dylai'r Cyngor fabwysiadu'r weledigaeth ganlynol ar gyfer yr 2RLDP
Gweledigaeth ar gyfer yr 2RLDP Sylw
Bydd Strategaeth Ddatblygu Bwrdeistref Sirol Caerffili yn manteisio ar ein lleoliad strategol wrth wraidd Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Bydd yn cyflawni datblygu cynaliadwy a fydd yn gwella lles y bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn chwarae yn y Fwrdeistref Sirol ac yn ymweld â hi. Erbyn diwedd cyfnod y cynllun, bydd y strategaeth wedi gwneud y canlynol:
- Mynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol sydd wedi codi o Covid-19, Brexit a newidiadau mewn patrymau cyflogaeth a manwerthu, wedi hwyluso nifer uwch o swyddi, wedi cynnal twf economaidd, wedi manteisio ar gryfderau gweithgynhyrchu presennol a'r economi sylfaen ac wedi creu canolau trefi bywiog â mathau amrywiol o ddefnydd.
- Wedi datblygu a gwella'r seilwaith glas a gwyrdd ar draws y Fwrdeistref Sirol drwy ei gynnwys wrth gynllunio datblygu a hyrwyddo amddiffyniad a gwelliant ardaloedd pwysig o ran cadwraeth natur ac iechyd a lles preswylwyr.
- Myned i'r afael â'r argyfwng tai drwy ddarparu tai fforddiadwy a marchnad, datblygu amrywiaeth eang a dewis o dai ac wedi sicrhau bod gan yr holl breswylwyr fynediad i gartref o safon yn y lleoliadau iawn,
- Wedi'i adeiladu ar gymeriad amrywiol ac unigryw trefi a phentrefi'r Fwrdeistref Sirol, wedi rhoi egwyddorion creu lleoedd wrth wraidd y dyluniad ac wedi annog cyfoeth diwylliannol ac amrywiaeth.
- Gwella rhwydwaith strategol adloniant, hamdden, addysg a chyfleusterau cymunedol, cymunedau wedi'u cryfhau a chreu ansawdd bywyd gwell i bawb.
Bydd y rhain i gyd yn seiliedig ar agweddau gwyrddach sy'n cynnwys:
- Defnydd cynyddol o gludiant cyhoeddus cynaliadwy a cherbydau trydanol, gan gynnwys isadeiledd gwefru.
- Hygyrchedd cynyddol drwy welliannau i'r rhwydwaith teithio llesol,
- Cynhyrchiant a defnydd cynyddol o ynni adnewyddadwy yn y Fwrdeistref Sirol.
Nodau ac Amcanion Allweddol Sylw
4.3 Er mwyn cyflawni'r Weledigaeth drwy'r 2RLDP, mae cyfres o nodau, a nododd meysydd eang ar gyfer gweithredu ac Amcanion, a nododd camau gweithredu manwl i gyflawni elfennau o'r Weledigaeth eang, wedi'i nodi. Bydd Nodau ac Amcanion yn llywio datblygiad polisi manwl y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r 2RLDP Adnau.
Y Nodau Allweddol Sylw
4.4 Mae'r nodau allweddol i'r 2RLDP yn cynnwys:
- A: Mynd i'r afael ag achosion effeithiau newid yr hinsawdd, a'u lliniaru a datblygu gwydnwch yn eu herbyn.
- B: Atgyfnerthu'r holl ddatblygiad gydag egwyddorion Creu Lleoedd, Datblygu Cynaliadwy a dylunio da.
- C: Sicrhau cyfleoedd cyfartal a mynediad i bawb i'r holl gartref, swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau arfaethedig a phresennol yn y Fwrdeistref Sirol.
- D: Gwella bywiogrwydd, amrywiaeth a chymeriad cymunedau lleol drwy ddefnyddio egwyddorion creu lleoedd cadarn ar gyfer iechyd a lles preswylwyr ac ennyn cydlyniant cymdeithasol.
- E: Amddiffyn a gwella seilwaith glas a gwyrdd y Fwrdeistref Sirol wrth gydbwyso'r angen am ddatblygu drwy gydbwyso effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i gyflawni datblygiad cynaliadwy.
- F: Hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Caerffili fel ardal gyda hunaniaeth unigryw ac fel ardal yn ei rhinwedd ei hun ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, wrth weithio ar y cyd er budd y rhanbarth.
- G: Sefydlu strwythur economaidd a phoblogaeth gynaliadwy a fydd yn cefnogi ein cymunedau a'n heconomi.
- H: Mynd i'r afael â heriau economaidd sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol drwy ddarparu tir a leolwyd yn gynaliadwy i gynyddu nifer y swyddi, hyrwyddo'r economi gylchol ac ennyn twf economaidd yn y Fwrdeistref Sirol, wrth hyrwyddo canolau trefi amrywiol gydag amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a darparu hierarchaeth gwastraff.
- I: Hyrwyddo datblygiad tai fforddiadwy a marchnad, mewn lleoliadau cynaliadwy, i ddarparu amrywiaeth a dewis o dai a fydd yn rhoi cyfle i bawb gael cartref o safon yn y lle iawn.
- J: Cefnogi datblygiad ac ehangiad pellach Metro De-ddwyrain drwy nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd a hyrwyddo isadeiledd trafnidiaeth presennol i hwyluso newid i gludiant cyhoeddus a cherbydau trydanol, wrth gynyddu'r potensial am deithio llesol ar gyfer teithiau lleol a hamdden a chynnal gwydnwch y rhwydwaith priffordd strategol.
- K: Cefnogi a hwyluso datblygiad cyfleusterau addysg fodern i uwchsgilio'r boblogaeth wedi'u teilwra i anghenion dyfodol y Fwrdeistref Sirol.
- L: Annog cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn gadarnhaol a defnyddio'r Fwrdeistref Sirol i gynorthwyo wrth leihau allyriadau a lliniaru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd.
- M: Hyrwyddo creu lleoedd o safon drwy ddatblygiadau sy'n seiliedig ar ddylunio da a sicrhau bod yr holl ddatblygiadau'n lleihau'r potensial am droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- N: Hyrwyddo amddiffyniad, adfywio a gwelliant ffabrig hanesyddol y Fwrdeistref Sirol er budd y diwylliant cyfoethog a'r amrywiaeth mae'n dod â nhw i gymunedau'r Fwrdeistref Sirol.
- O: Cyfrannu at wella iechyd cyhoeddus drwy hwyluso datblygiadau defnyddio tir sy'n cyfrannu at ffyrdd iach o fyw a lles meddwl.
Yr Amcanion Allweddol Sylw
4.5 Mae'r amcanion allweddol i'r 2RLDP wedi'u gosod isod. Maen nhw'n cyfeirio at y nodau allweddol y maen nhw'n mynd i'r afael â nhw:
- Darparu ar gyfer lefelau cynaliadwy o dwf poblogaeth sy'n cyd-fynd â statws y Fwrdeistref Sirol yn yr Ardal Dwf Genedlaethol (G, H, I).
- Rheoli, cadw a gwella ansawdd lleoedd agored a thirweddau a'u diogelu rhag ffurfiau datblygu amhriodol (D, M).
- Darparu Budd Net i Fioamrywiaeth drwy nodi seilwaith glas a gwyrdd presennol a newydd ac asedau bioamrywiaeth, a'u diogelu a'u gwella (E).
- Sicrhau bod pob datblygiad yn darparu Budd Net i Fioamrywiaeth drwy gynllun a threfn addas. (E).
- Sicrhau bod cynigion datblygu yn mynd i'r afael yn llawn ag addasu yn sgil newid yn yr hinsawdd a lliniaru, gan gynnwys mesurau sy'n unol â'r hierarchaeth ynni (A, B, E).
- Darparu targedau dim carbon Llywodraeth Cymru a chynorthwyo argyfwng hinsawdd y Cyngor drwy hyrwyddo datblygiad y genhadaeth ynni adnewyddadwy mewn lleoliadau priodol (A, L).
- Sicrhau bod yr holl ddatblygiadau wedi'u hategu gan egwyddorion yr economi leol, yn atal gwastraff drwy ystyried dewisiadau dylunio a thrin safleoedd a chynnig darpariaeth ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff sy'n cyfleu trefn blaenoriaethau'r hierarchaeth gwastraff (H).
- Annog ail-ddefnyddio a/neu ail-feddiannu tir llwyd priodol a thir wedi'i halogi ac atal halogi ac adfeilio pellach (E).
- Sicrhau bod lleoliad datblygu newydd yn hwyluso mynediad i gludiant cynaliadwy a theithio llesol a bod y datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â rôl a swyddogaeth aneddiadau yn unol â'r hierarchaeth anheddiad (J).
- Sicrhau bod amrywiaeth ddigonol a phriodol o safleoedd tai ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy i fodloni gofynion tai holl rannau'r boblogaeth (I).
- Sicrhau bod yr holl ddatblygu yn bodloni gofynion creu lleoedd da, dylunio a chynaliadwyedd fel a amlinellwyd yn y Siarter Creu Lleoedd, gan greu lleoedd gydag ymdeimlad cryf o gymuned, dylunio o safon, cynaliadwyedd, gweithgarwch, cydraddoldeb a chreu ymdeimlad o le (A, M).
- Rheoli, amddiffyn a gwella maint a safon yr amgylchedd dŵr a lleihau'r defnydd o ddŵr (D, E).
- Lleihau effaith llifogydd drwy sicrhau bod datblygu sy'n agored iawn yn cael ei symud oddi wrth ardaloedd â risg ganolog ac uchel o lifogydd a gwreiddio egwyddorion SuDS cadarn mewn cynlluniau datblygu o'r dechrau. (E)
- Lleihau'r angen i deithio drwy hyrwyddo cyfuniad o ddyraniadau defnydd o dir mewn lleoliadau cynaliadwy a darparu isadeiledd digidol gwell (E, J).
- Hyrwyddo mynediad i bawb drwy flaenoriaethu cerdded a beicio teithio llesol), a chludiant cyhoeddus ac yn olaf, cerbydau modur, a thrwy hynny, lleihau llygredd aer a'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat (J).
- Mwyafu safle'r Fwrdeistref Sirol yn yr Ardal Dwf Genedlaethol, gan gefnogi adfywio cydlynus a buddsoddiad i wella lles, cynyddu ffyniant a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac atgyfnerthu rolau strategol Caerdydd a Chasnewydd (F).
- Darparu ac amddiffyn portffolio amrywiol o dir cyflogaeth ar gyfer amrywiaeth o fathau o ddefnydd yn y lleoliadau mwyaf priodol, gan sicrhau bod swyddi a thai'n cyd-fynd â gwasanaethau ac isadeiledd trafnidiaeth cynaliadwy (H, K).
- Gwella'r economi ymwelwyr yn sylweddol drwy wella atyniadau twristaidd gydol y flwyddyn a llety i ymwelwyr, a datblygu rhai newydd ac amrywiol, a mwyafu'r manteision cysylltiedig mae'r gwelliannau'n eu darparu (H).
- Hyrwyddo system trafnidiaeth gyhoeddus integredig a chynaliadwy (J).
- Sicrhau darpariaeth isadeiledd gwefru cerbydau isel iawn o ran allyriadau (J).
- Darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau cymunedol, â lleoliadau priodol, sy'n hygyrch iawn, sy'n gwella iechyd a lles ac sy'n diwallu anghenion y Fwrdeistref Sirol (B, C, D, O).
- Hyrwyddo, cynnal a gwella canolfannau manwerthu a masnachol y lleoliadau mwyaf cynaliadwy lle gall pobl fyw, gweithio, siopa, cymdeithasu a chynnal busnes, gan sicrhau mynediad iddyn nhw drwy foddau cynaliadwy o gludiant (H).
- Amddiffyn, cadw a chynyddu gwerth yr Amgylchedd Hanesyddol drwy hyrwyddo treftadaeth fel ased ac annog ailddefnyddio addasedig, cynaliadwyedd, creu lleoedd ac adfywio (B, N).
- Hyrwyddo Amgylchedd Hanesyddol drwy leoedd hanesyddol sy'n cyfrannu at hanes y Fwrdeistref Sirol, wrth hyrwyddo a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd hanesyddol, drwy gymunedau lleol a chynnwys ymwelwyr (B, N, N).
- Sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn cael ei gwasanaethu'n dda gan le agored cyhoeddus hygyrch a mannau gwyrdd naturiol a hygyrch, sy'n hybu ffordd o fyw iach ac actif ac sy'n gwella lles yn gyffredinol (B, D, E, M, O).
Twf Strategol ac Opsiynau Strategaeth Sylw
Poblogaeth Sylw
5.1 Rhan allweddol o'r Strategaeth a Ffefrir Ddiwygiedig yw ystyried lefel y boblogaeth y bydd y Fwrdeistref Sirol yn gallu ei chynnal ar ddiwedd cyfnod y cynllun. Bydd y gwahaniaeth rhwng y boblogaeth bresennol a'r boblogaeth ar ddiwedd cyfnod y cynllun yn darparu sail ar gyfer nodi nifer yr anheddau y bydd angen eu darparu, nifer y swyddi sy'n debygol o fod yn angenrheidiol, yr isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol y bydd eu hangen i ddiwallu anghenion yr holl breswylwyr.
5.2 Er mwyn ystyried goblygiadau'r newidiadau nid yn unig o ran lefelau'r boblogaeth, ond hefyd o ran strwythur y boblogaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, mae nifer o opsiynau twf amgen wedi cael eu hasesu. Mae newid poblogaeth yn cynnwys dau ffactor, sef newid naturiol (y gwahaniaeth rhwng niferoedd y genedigaethau a'r marwolaethau mewn blwyddyn) a chyfraddau mudo (y gwahaniaeth rhwng y bobl hynny sy'n symud i'r Fwrdeistref Sirol a'r bobl hynny sy'n symud allan). Mae opsiynau ar gyfer newid yn y boblogaeth y cael eu rhagweld gan ddefnyddio gwybodaeth a newidiwyd neu dybiaethau mewn perthynas ag un neu'r ddau newid naturiol a chyfraddau mudo.
5.3 Yn gyffredinol, ystyriwyd 11 o opsiynau poblogaeth i ddechrau ar gyfer strategaeth yr 2RLDP, 3 yn seiliedig ar ragolygon poblogaeth Llywodraeth Cymru 2018, 4 yn seiliedig ar dybiaethau mudo, 2 yn seiliedig ar gyfraddau adeiladau tai newydd , 1 yn seiliedig ar y boblogaeth economaidd ac 1 yn seiliedig ar gyflogaeth. Mae crynodeb o'r opsiynau a'u hystyriaeth wedi'i amlinellu yn Nogfen Sail Tystiolaeth y Cyngor: "Opsiynau Twf Poblogaeth a Thai".
5.4 Fodd bynnag, ers cyhoeddi'r Cynllun Cyn-Adneuo cyntaf ym mis Hydref 2022, mae data Cyfrifiad 2021 wedi'u cyhoeddi ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn diwygiedig sydd wedi'u hailseilio i adlewyrchu data'r Cyfrifiad. Mae gan hyn oblygiadau penodol i Fwrdeistref Sirol Caerffili gan fod y Cyfrifiad wedi nodi bod y boblogaeth yng Nghaerffili ychydig dros 5000 o bobl yn llai nag a nodwyd yn yr amcangyfrifon canol blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon canol blwyddyn wedi'u hailseilio yn dangos bod y boblogaeth gychwynnol yn is na'r hyn a ddefnyddiwyd ar gyfer yr opsiynau twf strategol a bydd hyn yn cael effeithiau canlyniadol ar boblogaeth gyffredinol a strwythur poblogaeth y Fwrdeistref Sirol ar ddiwedd cyfnod y cynllun. O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi diweddaru ei opsiwn twf a ffefrir i'w alinio â Chyfrifiad 2021 a'r amcangyfrifon canol blwyddyn wedi'u hail-seilio.
Materion allweddol wrth ystyried Rhagolygon Poblogaeth a Thai Sylw
5.5 Mae Canllaw'r CDLl a'r PCC yn cynghori y dylid ystyried Rhagolygon diweddaraf gan Lywodraeth Cymru'n gyntaf yn y broses hon. Ar gyfer y broses hon, mae'r Cyngor wedi ystyried Prif Ragolwg Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2018 (Prif Ragolwg).
5.6 Mae newid yn y boblogaeth yn deillio o'r gyfradd eni, y gyfradd farwolaeth a lefelau mewnfudo yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Prif Ragolwg yn rhagweld, am y tro cyntaf, nifer uwch o farwolaethau na genedigaethau, sy'n arwain at newid naturiol negyddol, h.y. colli poblogaeth. Nid yw hyn wedi digwydd o'r blaen yn hanes y Fwrdeistref Sirol, gyda'r holl flynyddoedd blaenorol yn profi newid naturiol positif sy'n cyfrannu at dwf poblogaeth. Mae newid naturiol negyddol yn golygu y byddai'r Fwrdeistref Sirol yn lleihau o ran poblogaeth os nad oedd mudo net.
5.7 Er gwaethaf y newid naturiol negyddol, mae'r Prif Ragolwg yn nodi cynnydd mewn poblogaeth o ganlyniad mudo dros gyfnod y cynllun (2020 i 2035) o ychydig dros 1,800 o bobl, gan gynrychioli cynnydd o 1%. Er gwaethaf y cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol, mae dadansoddiad o strwythur y boblogaeth ar ddechrau a diwedd cyfnod y cynllun yn nodi y byddai'r boblogaeth economaidd (pobl o oedran gweithio) y lleihau gan bron i 2,900 o bobl, ac mae'r gymhareb hefyd yn nodi lleihau yn nifer y plant (0-15) dros gyfnod y cynllun o tua 2,700 o blant.
5.8 Mae'r golled poblogaeth economaidd a'r boblogaeth sy'n oedran plant yn arwain at oblygiadau sylweddol iawn ar gyfer economi'r Fwrdeistref Sirol, gyda gweithlu sy'n lleihau a llai o bobl ifanc yn cyrraedd oedran cyflogaeth. Golyga hyn y gallai'r Fwrdeistref Sirol fod yn cynllunio'n rhwydd am gyfyngiad economaidd yn hytrach na thwf. Gallai'r golled poblogaeth yn y grwpiau oedran hyn hefyd gael goblygiadau sylweddol ar gyfer gwasanaethau ac isadeiledd, yn enwedig ysgolion, gyda nifer o blant oedran ysgol yn lleihau'n sylweddol.
5.9 Lleolir Bwrdeistref Sirol Caerffili ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd sy'n ceisio cynyddu nifer y swyddi yn y rhanbarth gan 25,000 drwy ei Fargen Ddinesig. Yn ogystal, mae hefyd wedi'i leoli mewn Ardal Dwf Genedlaethol a nodwyd yng Nghymru'r Dyfodol, sy'n ceisio lefel o dwf gymesur i'r hyn mae'n rhaid darparu ar ei chyfer yn y maes hwn. Rhan hanfodol o unrhyw strategaeth sy'n ceisio bodloni'r gofynion hyn yw poblogaeth sy'n dangos twf, gyda thwf yn y boblogaeth economaidd yn benodol er mwyn cyrraedd targedau swyddi. O ganlyniad, bydd strategaeth dim ond yn bodloni gofynion Cymru'r Dyfodol a dyheadau Prifddinas-ranbarth Caerdydd os yw'n nodi lefel briodol o dwf mewn poblogaeth (gan gynnwys poblogaeth economaidd).
Rhagolygon Aelwydydd Sylw
5.10 Mae rhagolygon aelwydydd yn rhoi brasamcangyfrifon o nifer yr aelwydydd yn y dyfodol a nifer y bobl sy'n byw ynddynt. Maent yn seiliedig ar ragolygon poblogaethau ac amrywiaeth o dybiaethau am gyfansoddiad a nodweddion aelwyd. Caiff nifer yr aelwydydd ei throsi'n nifer anheddau drwy ddefnyddio cyfradd gwacter, i ganiatáu eiddo gwag a throsiant yn y farchnad.
5.11 Mae hyn wedi'i gynnal ar gyfer yr 11 rhagolwg cychwynnol ac opsiynau tai a nodwyd. Mae'r rhagolygon llawn wedi'u hamlinellu yn y ddogfen ac Opsiynau Twf Poblogaeth a Thai.
Asesiad o Senarios Twf Amgen Sylw
5.12 Mae cyfanswm o 11 opsiwn twf wedi cael eu hystyried ar gyfer yr 2RLDP. Mae crynodebau pob un o'r canlyniadau wedi'u nodi isod::
- Senario A: Prif Ragolwg LlC yn seiliedig ar 2018: Newid Poblogaeth 2020-2035: 1,881, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: 1.0, Newid Aelwyd 2020-2035: 2,862, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 3.7, Cyfanswm yr Anheddau: 9,996, Anheddau'r flwyddyn: 198, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: -2,868.
- Senario B: Poblogaeth Uchel LlC yn seiliedig ar 2018: Newid Poblogaeth 2020-2035: 5,499, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: 3.0, Newid Aelwyd 2020-2035: 4,241, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 5.5, Cyfanswm yr Anheddau: 4,395, Anheddau'r flwyddyn: 293, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: -1,842.
- Senario C: Poblogaeth Isel LlC yn seiliedig ar 2018: Newid Poblogaeth 2020-2035: 3,313, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: -1.8, Newid Aelwyd 2020-2035: 1,026, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 1.3, Cyfanswm yr Anheddau: 1,064, Anheddau'r flwyddyn: 71, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: 3,938
- Senario CH: Mewnfudo Sero Net: Newid Poblogaeth 2020-2035: -2,789, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: -1.5, Newid Aelwyd 2020-2035: 884, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 1.1, Cyfanswm yr Anheddau: 917, Anheddau'r flwyddyn: Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: -6,413.
- Senario D: Mewnfudo Cyfartalog Hir Dymor (19 o flynyddoedd) : Newid Poblogaeth 2020-2035: -1,002, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: -0.6, Newid Aelwyd 2020-2035: 1,695, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 2.2, Cyfanswm yr Anheddau: 1,756, Anheddau'r flwyddyn: 117, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: -5,380.
- Senario DD: Mewnfudo Cyfartalog Hir Dymor (10 o flynyddoedd) : Newid Poblogaeth 2020-2035: -1,137, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: -0.6, Newid Aelwyd 2020-2035: 1,636, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 2.1, Cyfanswm yr Anheddau: 1,696, Anheddau'r flwyddyn: 113, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: -756.
- Senario E: Mewnfudo cyfartalog de-ddwyrain Cymru: Newid Poblogaeth 2020-2035: 5,212, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: 2.9, Newid Aelwyd 2020-2035: 4,195, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 5.4, Cyfanswm yr Anheddau: 4,348, Anheddau'r flwyddyn: 290, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: -756.
- Senario F: Parhad y CDLl a fabwysiadwyd: Newid Poblogaeth 2020-2035: 15,058, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: 8.3, Newid Aelwyd 2020-2035: 8,323, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 10.8, Cyfanswm yr Anheddau: 8,622, Anheddau'r flwyddyn: 575, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: 7,668.
- Senario FF: Cyfraddau adeiladu tai hir dymor: Newid Poblogaeth 2020-2035: 7,990, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: 4.4, Newid Aelwyd 2020-2035: 5,399, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 7.0, Cyfanswm yr Anheddau: 5,595, Anheddau'r flwyddyn: 373, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: 1,944.
- Senario G: Twf Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn y boblogaeth oedran gweithio: Newid Poblogaeth 2020-2035: 10,685, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: 5.9, Newid Aelwyd 2020-2035: 6,513, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: 8.4, Cyfanswm yr Anheddau: 6,750, Anheddau'r flwyddyn: 450, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: 4,126.
- Senario NG: Senario Rhagolwg Cyflogaeth Economaidd Rhydychen: Newid Poblogaeth 2020-2035: -8,805, Canran y Newid Poblogaeth 2020-2035: -4.8, Newid Aelwyd 2020-2035: -2,031, Canran y Newid Aelwyd 2020-2035: -2.6, Cyfanswm yr Anheddau: 0, Anheddau'r flwyddyn: 0, Newid mewn poblogaeth oedran gweithio: -11,231.
5.13 Mae'r disgwyliad sy'n codi o gynnwys Caerffili yn nynodiad Ardal Dwf Genedlaethol Cymru'r Dyfodol a dyheadau economaidd Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn golygu bod unrhyw strategaeth arfaethedig ar gyfer yr 2RLDP angen sicrhau poblogaeth economaidd ddichonadwy a chynaliadwy ac yn dangos twf. O ganlyniad i hyn, dim ond pedwar o'r opsiynau sydd wedi cael eu hystyried ar gyfer strategaeth yr 2RLDP. Mae'r pedwar opsiwn fel a ganlyn:
- Senario A – Prif Ragolwg LlC yn seiliedig ar 2018;
- Senario F – Parhad y CDLl a fabwysiadwyd;
- Senario Ff – Cyfraddau adeiladu tai hir dymor; ac
- Senario G – Twf Poblogaeth Oedran Gweithio Prifddinas-ranbarth Caerdydd
5.14 Mae'r Opsiynau Twf wedi bod yn destun ymgynghori â'r gyfres seminar CDLl. O ganlyniad i'r gwaith hwn, argymhellodd y Grŵp Ffocws CDLl (y grŵp â chyfrifoldeb am wneud argymhellion i'r Cyngor mewn perthynas â materion 2RLDP) y dylid defnyddio senario Senario G – Twf Poblogaeth Oedran Gweithio Prifddinas-ranbarth Caerdydd fel sail y cynllun sy'n dod i'r amlwg.
5.15 Er bod Cyfrifiad 2021 wedi newid y man cychwyn ar gyfer rhagamcanion ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae'r materion sylfaenol a'r rhesymau dros ddewis yr opsiwn twf a ffefrir (Senario G) yn aros yr un fath. O ganlyniad, er gwaethaf y newid yn y man cychwyn, mae'r Cyngor yn parhau i gredu bod Senario G yn parhau i fod yr opsiwn twf priodol ar gyfer yr 2RLDP. O'r herwydd, dim ond wrth fynd i'r afael â Chyfrifiad 2021 a'r amcangyfrifon canol blwyddyn wedi'u hailseilio y mae'r Cyngor wedi ailystyried Senario G.
Gofynion Economaidd Sylw
5.16 O gofio bod yr Opsiwn Twf a ddewiswyd ar gyfer y cynllun sy'n dod i'r amlwg yn seiliedig ar uchelgeisiau Prifddinas-ranbarth Caerdydd ar gyfer twf economaidd, mae'n bwysig bod y cynllun yn gwneud darpariaeth i gynnal lefel ddigonol o dwf o safbwynt cyflogaeth. Comisiynodd y Cyngor ddwy astudiaeth, astudiaeth fwy na lleol sy'n ystyried y farchnad ranbarthol ac adolygiad o dir cyflogaeth lleol sy'n ystyried argaeledd safleoedd presennol a maint y tir newydd y byddai'n rhaid ei nodi drwy'r cynllun sy'n dod i'r amlwg. Mae'r dogfennau hyn wedi llywio'r gofynion tir cyflogaeth ar gyfer yr 2RLDP, gan ystyried Opsiwn Twf G. Mae'r astudiaethau'n nodi gofyniad am ddarpariaeth 39.6 hectar ychwanegol o dir cyflogaeth i'w neilltuo i fodloni'r gofynion cyflogaeth, er bod 4.9 hectar ychwanegol yn cael ei nodi i fynd i'r afael â diffyg tir sydd ar gael yn ne'r Fwrdeistref Sirol. O ganlyniad, nodwyd cyfanswm o 44.5 hectar i fodloni'r gofynion cyflogaeth cyffredinol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
Twf mewn Cyd-destun Rhanbarthol Sylw
5.17 Mae Polisïau 19 a 33 Cymru'r Dyfodol yn nodi'r dull rhanbarthol o ystyried twf ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd awdurdodau cynllunio lleol yn mynd i'r afael â'u lefelau twf arfaethedig mewn cyd-destun rhanbarthol. Mewn ymateb i hyn comisiynodd Cymdeithas Swyddogion Cynllunio De-ddwyrain Cymru, ar y cyd â SEWSPG, ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth o dwf rhanbarthol a mudo yn y Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ystyriodd yr astudiaeth hon cwmpas ar gyfer twf poblogaeth a thwf economaidd o fewn y rhanbarth mewn senario nad yw'n bolisi, gan nodi'r hyn y gellid ei gyflawni gydag ymyriadau polisi penodol. Ar gyfer Caerffili, nododd yr astudiaeth lefelau twf a oedd yn gymesur â'r rhai a nodwyd yn yr amcanestyniadau Senario G gwreiddiol, sy'n golygu nad oes angen newid yr opsiwn twf a ffefrir ar y sail hon. Cadarnhaodd yr astudiaeth ranbarthol yn gryf y twf cyflogaeth (swyddi) arfaethedig wrth ddangos lefel gyffredinol is yn y boblogaeth, sy'n adlewyrchu'r boblogaeth gychwynnol a oedd yn seiliedig ar y boblogaeth ddiwygiedig yn unol â'r Cyfrifiad ac wedi'i hailseilio ar amcangyfrifon canol blwyddyn.
5.18 Mae'r Cyngor wedi ailedrych ar Senario G ac wedi ail-seilio'r rhagamcanion ar gyfer yr opsiwn hwn i adlewyrchu'r Cyfrifiad ac wedi ail-seilio amcangyfrifon canol blwyddyn.
Polisi PS1: Lefel Twf yr 2RLDP Sylw
SP1 Mae'r 2RLDP yn mabwysiadu lefelau twf a amlinellwyd yn Senario G diwygiedig – senario Twf Poblogaeth Oedran Gweithio Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Bydd yr 2RLDP yn cynllunio am gynnydd mewn poblogaeth o oddeutu 11,603 o bobl, gyda chynnydd yn y boblogaeth economaidd o oddeutu 3,005 o bobl.
Opsiynau Strategaeth Sylw
5.19 Wedi nodi'r lefel o dwf, y cam nesaf oedd ystyried sut y gellir dosrannu'r lefel o dwf yn briodol ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Mae cyfanswm o 6 opsiwn strategaeth amgen wedi cael eu hystyried fel rhan o'r broses, gan fyfyrio ar y problemau sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol a'r fframwaith polisi rhanbarthol. Mae'r ystyriaeth a'r asesiad o'r opsiynau strategaeth wedi'u hamlinellu yn y Ddogfen Sylfaen Tystiolaeth "Asesiad o Opsiynau Strategaeth". Y chwe opsiwn strategaeth a ystyriwyd oedd:
- Opsiwn Strategaeth 1: Parhad o'r Strategaeth CDLl
Byddai hyn yn gweld parhad y strategaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr CDLl a fabwysiadwyd ar hyn o bryd. Mae'r strategaeth yn llywio datblygiad o fewn fframwaith strategol eang gan ategu egwyddorion datblygu strategol. Rhannwyd y Fwrdeistref Sirol yn dri maes strategol, pob un â'i bolisïau datblygu strategol eu hunain. Mae'r meysydd strategol hyn yn Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd (HoVRA), Coridor Cysylltiadau'r Gogledd (NCC) a'r Coridor Cysylltiadau'r De (SCC). - Opsiwn Strategaeth 2: Ffocws Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd
Mae'r strategaeth hon yn ceisio mwyafu cyfleoedd datblygu yn Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd i hyrwyddo twf economaidd, ehangu'r amrywiaeth a'u dewis o dai a mwyafu manteision buddsoddiad o bwys a gwelliant yn y Metro a'r A465. - Opsiwn Strategaeth 3: Safle Strategol Allweddol
Byddai'r opsiwn strategaeth hwn yn arwain at neilltuo safle strategol ym Maes-y-cwmwr i roi lle ar gyfer carfan sylweddol o ddatblygu tai newydd, ynghyd â datblygu ffordd mynediad a chysylltiad trafnidiaeth strategol gwell. Byddai'r datblygu newydd ychwanegol yn canolbwyntio'n bennaf ar ardaloedd Coed Duon Mwy ac Ystrad Mynach Mwy, ynghyd â Chymoedd Ebwy Is a Sirhywi, ar y safleoedd mwyaf priodol a chynaliadwy sydd wedi'u cysylltu'n dda â'r rhwydwaith rheilffyrdd a chyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus. - Opsiwn Strategaeth 4: Ffocws Buddsoddiad y Metro
Byddai'r opsiwn strategaeth hwn yn golygu neilltuo tir â'r nod o fwyafu'r manteision sy'n deillio o'r buddsoddiad sylweddol ym Metro De-ddwyrain Cymru, gan fwyafu cyfleoedd sy'n codi o ac o amgylch nodau trafnidiaeth gyhoeddus allweddol, gan gynnwys gorsafoedd rheilffyrdd ar hyd Llinellau Rhymni ac Ebwy a'r prif orsafoedd bysus yng Nghoed Duon a Nelson. - Opsiwn Strategaeth 5: Canol Tref yn Gyntaf
Byddai'r opsiwn strategaeth hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiadau newydd yn agos i brif drefni Caerffili, Ystrad Mynach, Coed Duon, Risca/Pont-y-meister a Bargoed a chanolfannau lleol Bedwas, Trecelyn, Nelson a Rhymni, ac agosrwydd un o'r canolfannau fydd y brif ystyriaeth wrth neilltuo safleoedd datblygu newydd. - Opsiwn Strategaeth 6: Ffocws Basn Caerffili
Nod y strategaeth hon yw mwyafu cyfleoedd datblygu yn y Coridor Cysylltiadau'r De i hyrwyddo twf economaidd a chynyddu manteision buddsoddiad sylweddol mewn adfywio tref Caerffili.
5.20 Roedd y chwe opsiwn strategaeth yn destun proses ymgynghori'r CDLl drwy'r gyfres o seminarau, lle trafodwyd yr opsiynau. Adroddwyd canlyniad y gwaith ymgysylltu wrth Grŵp Ffocws CDLl ac argymhellodd Grŵp Ffocws y CDLl y dylai'r strategaeth ar gyfer y 2RLDP fod yn strategaeth hybrid a ffurfiwyd o Opsiynau Strategaeth 3, 4 a 5. Y strategaeth hon oedd sail y Cynllun Cyn-Adneuo 1af. Yn dilyn yr ymgynghoriad ac mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd, mae'r strategaeth bellach wedi'i diwygio drwy ddileu'r Safle Strategol.
Polisi PS2: Y Strategaeth a Ffefrir Ddiwygiedig ar gyfer yr 2RLDP Sylw
SP2 Mae'r 2RLDP yn mabwysiadu strategaeth hybrid, sy'n cynnwys Safle Strategol Allweddol; Opsiwn Strategaeth 4: Ffocws Buddsoddiad y Metro ac Opsiwn Strategaeth 5: Canol Tref yn Gyntaf.